Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n falch o gyhoeddi y cytunwyd i roi cyllid ychwanegol o £0.8m i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Gyllideb Derfynol ar 2 Mawrth 2021 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad yn Cymraeg 2050.  Cyfanswm y gyllideb i’r Coleg ar gyfer ôl-16 ac addysg uwch fydd £7.303.  Bydd y cyllid ychwanegol yn galluogi’r Coleg i symud ymlaen gyda gweithredu addysg bellach a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y meysydd blaenoriaeth, trwy gynyddu nifer y tiwtoriaid dwyieithog yn y colegau ar draws Cymru o fis Medi 2021.

Trwy’r datganiad hwn, galluogir y Coleg i gefnogi’r sector addysg bellach i ymestyn y cyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog fydd ar gael i ddysgwyr mewn iechyd a gofal, gofal blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cyhoeddus.  Mae galw am weithlu dwyieithog yn y meysydd blaenoriaeth hyn a bydd y Coleg yn canolbwyntio ar weithio gyda’r sectorau i sicrhau bod gan ein dysgwyr y sgiliau angenrheidiol wrth gwblhau eu haddysg a’u hyfforddiant.

Bydd y cyllid ychwanegol o £0.8m a roddir i’r Coleg yn caniatau i’r colegau gyflogi hyd at ddau diwtor llawn-amser cyfatebol yn y tri maes blaenoriaeth am gyfnod wedi ei gytuno.  Y bwriad yw denu hyd at 2,000 o ddysgwyr newydd ddaw o’r ysgolion cyfrwng Cymraeg i ymgymryd â rhywfaint neu’r cwbl o’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog, ac i roi cyfle i’r rheiny sy’n symud o addysg cyfrwng Saesneg i barhau i wella eu Cymraeg.  Bydd y cyllid yn ffordd o gryfhau’r ethos ddwyieithog a chynnig gwir gyfleoedd i ymgymryd â’r Gymraeg yn y cyfnod ôl-16.