Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol fel sector o bwys strategol cenedlaethol. Mae'n bwysig felly ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol i sicrhau y darperir gofal a chymorth o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru.
Mae adroddiadau diweddar gan Gymdeithas Gofal Cartref y DU, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wedi cefnogi mwy o fuddsoddiad mewn gofal cymdeithasol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sector gofal cymdeithasol. Rydym wedi clywed a deall y pryderon a godwyd ynghylch pwysau ariannol a'u heffaith. Er bod codiad cyflog i weithwyr ar gyflog isel i’w groesawu, cydnabyddwn fod y pwysau ariannol hyn sy’n wynebu’r sector wedi cael eu cymhlethu gan weithredu cyflog byw cenedlaethol Llywodraeth y DU yn yr hyn a fu yn draddodiadol yn sector cyflogau isel.
Mae ein dadansoddiad o gostau’r cyflog byw cenedlaethol yn awgrymu bod yr effaith ar y sector gofal cymdeithasol rhwng £14m a £23m yn 2016-17.
Mae Cyllideb 2017-18 yn cynnwys £25m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, a ddarperir drwy’r grant cynnal refeniw ar gyfer llywodraeth leol. Mae’r cymorth ychwanegol hwn wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Leol ac fe fydd yn helpu i ymateb i bwysau.
Heddiw, rwyf yn cadarnhau y bydd £10m bellach o gyllid cylchol ar gael i helpu i reoli effaith y cyflog byw cenedlaethol.
Bydd y £10m ychwanegol ar ffurf grant penodol i gychwyn wrth inni sefydlu cytundeb tair ffordd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol a chyflogwyr gofal cymdeithasol. Bydd Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid ychwanegol; bydd yr awdurdodau lleol yn buddsoddi mewn darparu gofal a bydd cyflogwyr yn creu gweithlu mwy sefydlog sy’n cael ei werthfawrogi, gan leihau amlder ac effaith trosiant y gweithlu tra’n gwella ansawdd y gofal a ddarperir.
Bydd y cytundeb hwn yn ymrwymo pob plaid i drefniadau i gefnogi’r costau sy'n gysylltiedig â’r cyflog byw cenedlaethol ac fe fydd yn helpu i greu gweithlu gofal cymdeithasol mwy sefydlog, gan gynnwys cyflawni ein hymrwymiad penodol ar gyfer gweithlu gofal cymdeithasol sydd wedi’i gofrestru’n llawn erbyn 2022.
Ochr yn ochr â’r buddsoddiad newydd hwn mewn gofal cymdeithasol, rwyf wedi bod yn ystyried lefel yr uchafswm tâl wythnosol am ofal amhreswyl. Ar hyn o bryd, mae'r incwm a godir oddi wrth bobl sy'n talu'r uchafswm tâl yn cyfrannu mwy na £25m y flwyddyn tuag at gost y gofal hwn. Mae'r arian hwn yn chwarae rôl bwysig o ran maint ac ansawdd y gofal preswyl y mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru uchafswm tâl yn 2011 i fynd i'r afael â’r amrywiadau eang mewn taliadau a wnaeth yr awdurdodau lleol ar gyfer gofal preswyl tebyg. Mae hyn wedi darparu cysondeb o ran codi tâl ledled Cymru ar gyfer gofal cartref a gofal amhreswyl arall.
Mae gwybodaeth gan yr awdurdodau lleol yn dangos bod dwy ran o dair o bobl yn cael eu gofal naill ai am ddim neu am dâl hyd at yr uchafswm yn dibynnu ar lefelau eu hincwm. Mae gan y traean o bobl sy'n talu'r uchafswm tâl lefelau cymharol uchel o incwm neu lefelau uchel o gyfalaf. Mae’r uchafswm tâl wythnosol yn cyflawni'r nod o gysondeb o ran codi tâl ledled Cymru ond bydd yn gwneud hyn drwy gyfyngu’n anghymesur ar incwm taliadau oddi wrth y rhai sydd yn y sefyllfa orau i dalu am gost eu gofal.
Rwyf wedi fy argyhoeddi bod angen cadw’r uchafswm tâl er mwyn sicrhau cysondeb. Er hynny, mae’r lefel bresennol o £60 yr wythnos wedi bod ar waith ers bron dwy flynedd ac mae’n bryd codi’r uchafswm. Bydd hyn yn cymryd i ystyriaeth yr effaith anghymesur ond hefyd, yn bwysicach, yr angen i fuddsoddi yn y sector gofal.
Ar ôl ystyriaeth ofalus, yn seiliedig ar adborth gan randdeiliaid, rwyf wedi penderfynu y caiff yr uchafswm tâl ei godi i £70 yr wythnos o Ebrill 2017. Bydd hyn yn codi mwy na £4m y flwyddyn mewn incwm ychwanegol i’r awdurdodau lleol i helpu i ddatrys problemau ariannol mewn gofal cymdeithasol a sicrhau argaeledd ac ansawdd gofal. Yn fy marn i mae hyn yn ategu’r £10m ychwanegol yr ydym yn ei ddarparu ar gyfer gofal cymdeithasol i fodloni heriau’r isafswm cyflog cenedlaethol, a’r swm ychwanegol o £25m a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2017-18.
Mae cynaliadwyedd y sector gofal cymdeithasol yn cael ei gefnogi ymhellach gan y Gronfa Gofal Canolraddol a ddechreuodd yn 2014-15 ac a fydd yn cael arian o £60m yn 2017-18 i barhau â’r gwaith o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd ymgysylltu pellach â rhanddeiliaid i benderfynu ar y dull gorau o ymdrin â newidiadau yn yr uchafswm i ofal amhreswyl yn y blynyddoedd i ddod. Bydd hyn yn rhan o drefniant tymor hwy lle bydd yr uchafswm yn codi i £100 yr wythnos erbyn 2021.
Mae ymgynghoriad ynghylch y newidiadau i'r rheoliadau y mae eu hangen i gyflwyno codiad yn yr uchafswm tâl o fis Ebrill ac i godi’r terfyn cyfalaf a ddefnyddir wrth godi tâl am ofal preswyl i £30,000 yn mynd rhagddo a bydd yn para tan 25 Ionawr.
Mae ar gael yn:
https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/codi-tal-am-ofal-cymdeithasol