Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n falch o allu rhannu â'm cydweithwyr argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Fwydo ar y Fron. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn ac rydym yn gwybod bod bwydo ar y fron yn gallu bod yn fuddiol i iechyd a datblygiad mamau a babanod.

Yn dilyn adborth ar gyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru, sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen i gynnal adolygiad o'r arferion bwydo ar y fron presennol. Roeddwn yn awyddus i’r adolygiad hwnnw ddatblygu argymhellion ar gyfer gwella yn y dyfodol, gan ddysgu o’r arferion gorau.

Roedd y grŵp yn cynnwys clinigwyr a rhanddeiliaid allweddol, a dechreuodd ar ei waith ym mis Medi 2017. Edrychodd ar dri maes allweddol: y cyfeiriad strategol presennol ar draws gwasanaethau mamolaeth a'r blynyddoedd cynnar, modelau arferion gorau a gwerthuso canlyniadau a chyfraddau bwydo ar y fron.

Mewn perthynas â'r cyfeiriad strategol, mae'r adroddiad yn argymell y dylid llunio cynllun gweithredu bwydo ar y fron i Gymru Gyfan a grŵp trosolwg strategol i gefnogi'r modd o weithredu. Mae'n argymell hefyd y dylid penodi swyddog arwain strategol ar fwydo babanod ym mhob bwrdd iechyd i sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyfartal ar draws gwasanaethau i blant a bod y dulliau casglu data yn gadarn.

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at lawer o enghreifftiau o arferion gorau lle mae menywod yn cael cefnogaeth i fwydo ar y fron yn llwyddiannus. Mae'r rhain yn cynnwys timau cefnogaeth gan gymheiriaid, lle mae gwirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi yn cael eu cysylltu â mamau yn yr ysbyty ac yn y gymuned i roi cyngor a chefnogaeth. Daethpwyd o hyd i fodelau arloesol hefyd ym Mhrifysgol Abertawe. Yno, roedd bydwragedd dan hyfforddiant, a oedd yn cael eu goruchwylio gan diwtoriaid bydwreigiaeth, yn cynnal sesiynau cymorth bwydo ar y fron yn wythnosol i fenywod a oedd yn cael anawsterau wrth geisio bwydo. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr bydwreigiaeth i gael hyfforddiant ymarferol a chael trosolwg gwerthfawr ar yr un pryd o'r heriau y gall menywod sy’n bwydo ar y fron eu hwynebu. Argymhellir yn yr adroddiad y dylai'r enghreifftiau hyn o arferion da, ynghyd â rhai eraill sy'n cael eu crybwyll yn yr adroddiad, gael eu hymwreiddio yn y cynllun gweithredu fel enghreifftiau i'w rhoi ar waith ym mhob cwr o Gymru.

Yn olaf, mae'r argymhellion yn mynd i'r afael â pherfformiad yn y dyfodol o safbwynt monitro a gwerthuso hyfforddiant a darpariaeth bwydo ar y fron mewn gwasanaethau mamolaeth.  Mae cynllun achredu Menter Cyfeillgar i Fabanod Sefydliad UNICEF Sefydliad Iechyd y Byd yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ym mhob uned mamolaeth. Mae'r adroddiad yn argymell y dylid adolygu'r prosesau gwerthuso presennol a chynnal adolygiad o fanteision cost i argymell sut y dylai'r model ar gyfer y dyfodol i Gymru edrych.  

Roedd hwn yn adolygiad pwysig i'w gynnal a dynnodd sylw at lawer o feysydd o arferion da, ond a nododd gyfle i wella hefyd ar draws y system. Awydd i sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau posibl sy'n ganolog i'r gwaith hwn, ac rwy'n cydnabod pa mor bwysig ydyw fod cymorth deallus ar gael i fenywod sy'n dymuno bwyd ar y fron. Rwy'n falch o dderbyn yr holl argymhellion a gynigiwyd gan y grŵp gorchwyl a gorffen. Disgwyliaf i'r gwaith hwn ar weithredu ddechrau ym mis Gorffennaf 2018.

www.llyw.cymru/nyrsio