Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd Huw Lewis, fy rhagflaenydd, ei ymateb i grŵp gorchwyl a gorffen gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru. Roedd yr adroddiad gwerthfawr hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o argymhellion, ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, i gefnogi strwythur 'pyramid' Cymru ar gyfer datblygu hyfforddiant cerddorol a lleisiol.

Heddiw rwy'n cyhoeddi adroddiad arall ar y cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen.

Er y gallai gymryd peth amser i weithredu'r argymhellion hyn, mae'r cynnydd sydd wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf yn galondid imi, a'r cydweithredu ledled Cymru i ddiogelu ac ymestyn cyfleoedd cerddorol ar gyfer ein plant.

Rwy'n gwybod bod yna rwydwaith brwd ac ymroddedig o wasanaethau cerddoriaeth ac athrawon cerddoriaeth yng Nghymru, sy'n ysbrydoli ein pobl ifanc i berfformio a gwella eu sgiliau, gan ddod yn fwyfwy hyderus, ac rwyf am eu cefnogi yn hyn. Mewn partneriaeth ag ysgolion, CLlLC a chyrff celfyddydol Cymru, felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gweithgareddau cerddorol ar gyfer pobl ifanc, o'r ystafell ddosbarth i'r ensembles cenedlaethol.

Mewn partneriaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, rwyf wedi sefydlu Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth, a fydd yn derbyn £1miliwn gan Lywodraeth Cymru. Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth fydd ein dull hirdymor o gynnig cyfleoedd cerddorol gwell ar gyfer ein pobl ifanc.

Rydym wedi comisiynu Cyngor Celfyddydau Cymru i fynd ati i sefydlu'r gwaddol ac yn gobeithio ei lansio erbyn diwedd y flwyddyn. Caiff y gwaddol ei reoli gan fwrdd elusennol annibynnol.

Bydd nifer a natur y grantiau a gynigir gan y gronfa yn dibynnu ar fuddsoddiadau partner. Disgwylir i'r gronfa ddechrau cynnig y grantiau o 2020. Byddwn yn defnyddio dulliau amrywiol; nawdd corfforaethol a diwydiannau, cytundebau untro, cyfraniadau gan unigolion a threthi ar docynnau, fel y gallwn ddechrau cefnogi cymaint o bobl ifanc â phosibl i gael cyfleoedd cerddorol ychwanegol, cyn gynted â phosibl.

Drwy gydweithio, rwy'n gwybod y gallwn warchod treftadaeth gerddorol wych Cymru, gan ei diogelu ar gyfer y genhedlaeth nesaf, a sicrhau bod ein pobl ifanc yn parhau i elwa ar fywyd diwylliannol sydd â chyfoeth cerddorol a chelfyddydol.

http://gov.wales/topics/educationandskills/publications/wagreviews/music-services-task-and-finish-group-report/?lang=cy