Vaughan Gething AS, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Mai 2017, cyhoeddais y byddai proffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) ar gael fel rheol i bob unigolyn y mae’n briodol yn glinigol iddo, fel rhan o astudiaeth dair-blynedd Cymru gyfan am ei ddefnyddio fel rhan o ddull ehangach o atal HIV.
Nawr, a hithau’n dair blynedd ar ôl fy mhenderfyniad i wneud PrEP ar gael i bawb y gallai elwa ohono ac wrth i’r astudiaeth PrEPARED ddod i ben, dymunaf ddarparu sicrwydd i’r bobl niferus yng Nghymru sydd wedi cael eu hamddiffyn rhag HIV o ganlyniad i ddefnyddio PrEP.
Cymerais fy mhenderfyniad yn 2017 oherwydd cyngor oddi wrth Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG). Ar y pryd, cyngor AWMSG oedd na ellid cymeradwyo defnyddio PrEP fel rheol oherwydd ansicrwydd am lefelau’r cost-effeithiolrwydd yn eu gwerthusiad o’r unig feddyginiaeth drwyddedig ar gael i PrEP yr adeg honno, y cynnyrch perchnogol Truvada®.
Yn y tair blynedd ers i astudiaeth PrEPARED gychwyn, rhagnodwyd PrEP i dros 1,200 o bobl ac ni fu dim diagnoses newydd o HIV o blith y bobl yng Nghymru sy’n cymryd PrEP. Rydym wedi elwa hefyd o ddyfodiad fersiynau generig o PrEP sydd ar gael i’r GIG ar bris is o lawer na’r cynnyrch perchnogol. Golyga hyn, gyda’r data dros dro a gasglwyd yn astudiaeth PrEPARED sy’n mynd i’r afael â pheth o’r ansicrwydd yn y gwerthusiad cychwynnol, fod AWMSG bellach wedi fy nghynghori bod PrEP yn debyg o fod yn gost-effeithiol ym mhob un senario, er gwaethaf unrhyw ansicrwydd sydd ar ôl.
Mae’n bleser mawr gennyf felly allu cadarnhau fy mod wedi heddiw (30 Mehefin) wedi cymeradwyo argymhelliad diweddaraf AWMSG bod PrEP yn parhau i fod ar gael fel rheol yng Nghymru, nid yn rhan o astudiaeth, ond yn rhan o ofal arferol y GIG i bawb y mae’n briodol yn glinigol iddo.
Meser pwysig yn ein nod i ddileu HIV yw darparu PrEP ac ryw’n falch o’r hyn a gyflawnasom yng Nghymru hyd yn hyn. Rydym wedi gwneud cynnydd mawr wrth ddatblygu gwasanaethau iechyd rhyw mwy modern ac effeithiol dros y blynyddoedd diwethaf.