Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gweithwyr ar brosiectau a ariennir yn gyhoeddus yn cael eu trin yn deg ac â pharch.  Rwyf wedi cael gwybod am faterion hunangyflogaeth ffug a’r defnydd o gynlluniau tâl ambarél annheg sydd ar waith ar rai safleoedd adeiladu lle mae gweithwyr yn cael eu cyflogi gan fusnesau cyflogaeth yn hytrach na chael eu cyflogi yn uniongyrchol gan y contractwr.

Rwyf yn falch o gyhoeddi fy mod yn lansio nodyn cyngor caffael heddiw sydd wedi’i anfon at bob corff cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu canllawiau i’w gwneud yn ofynnol defnyddio arferion cyflogaeth teg yn achos prosiectau a ariennir yn gyhoeddus.
Hoffwn ddiolch i’r undebau Unite, UCATT a GMB am eu cyngor wrth godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn ac am gyfrannu at  gyfeiriad y nodyn cyngor.

Byddaf yn disgwyl i’r canllawiau hyn gael eu cymhwyso i bob contract perthnasol yn y dyfodol er mwyn helpu i sicrhau bod unrhyw fusnes sy’n cael gwariant caffael cyhoeddus yn rhoi arferion cyflogaeth teg ar waith.

Dyma enghraifft arall o’m hymrwymiad i ddefnyddio polisi caffael cyhoeddus fel ysgogwr sy’n gofyn am ymddygiad moesegol a chyfrifol ym myd busnes.
Mae’r nodyn cyngor i’w weld yn www.prp.wales.gov.uk/toolkit