Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Ar ôl cyhoeddi’r gyllideb heddiw, rwyf wedi penderfynu estyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau bach. Fy mhenderfyniad i oedd cynnal yng Nghymru y cynllun gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 2010. Y bwriad oedd i'r cynllun gwreiddiol ddod i ben ar 30 Medi 2011. Yn sgil fy mhenderfyniad heddiw caiff y cynllun ei estyn tan 30 Medi 2012.

 

Mae fy swyddogion yn mynd ati ar frys i gael y manylion llawn ynghylch cynigion y Canghellor, ond o dan y cynllun cyfredol mae'r busnesau sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael rhyddhad ardrethi o 100% ac mae'r rheini sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad sy'n cael ei leihau'n raddol. Er enghraifft, mae safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol o £8,000 yn cael rhyddhad o 66% ac mae'r rheini sydd â gwerth ardrethol o £10,000 yn cael rhyddhad o oddeutu 33%. Nid wyf yn disgwyl y bydd telerau'r cyhoeddiad heddiw yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r trefniadau hyn.

 

Mae fy nghyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd ym mhell dros hanner y safleoedd busnes yng Nghymru'n yn elwa ar ryddhad ardrethi busnes, sy'n dangos yn glir ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gynnal busnes a menter er gwaethaf yr amodau economaidd anodd parhaus. Ni fydd tua hanner o'r busnesau hynny sy'n gymwys yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl.

 

Mae'r cynllun rhyddhad estynedig a gyhoeddwyd heddiw yn cael ei gynnig ochr yn ochr â threfniadau rhyddhad ardrethi Llywodraeth y Cynulliad, sy'n golygu bod ystod llawer ehangach o ryddhad ar gael yng Nghymru. Yn yr achosion hynny lle mae busnesau Cymru yn cael mwy o ryddhad ardrethi o dan drefniadau cyfredol Llywodraeth y Cynulliad nag o dan y cynllun estynedig a gyhoeddwyd heddiw, byddant yn parhau i gael y gyfradd ardrethi sydd o'r budd mwyaf iddyn nhw.

 

Er enghraifft:

  • bydd safleoedd gofal plant cofrestredig sydd â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn parhau i gael rhyddhad o 50%;
  • bydd safleoedd sydd â gwerth ardrethol rhwng £10,501 ac £11,000 sy'n gymwys am ryddhad o 25% o dan gynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gael yr un gostyngiad;
  • bydd Swyddfeydd Post yn dal i gael rhyddhad o 100% neu 50%.

I fod yn gymwys am ryddhad busnes mae'n rhaid:

  • bod rhywun yn meddu'n llawn ar y safle;
  • nad safle a eithrir ydyw at ddibenion Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 (er enghraifft y rheini y mae Cyngor, Awdurdod yr Heddlu, neu'r Goron yn meddu arnynt; a'r rheini sy'n cael eu meddiannau gan elusennau, clybiau cofrestredig, cyrff dielw sy'n destun trefniadau rhyddhad ardrethi elusennol arwahanol o 100%).