Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Ar ôl imi gyhoeddi fy mod yn bwriadu cyflwyno cynllun trwyddedu yng Nghymru ar gyfer Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid (ATE), rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae'r cynnig i gyflwyno cynllun trwyddedu yn atgyfnerthu'n hymrwymiad i sicrhau'r safonau lles uchaf ar gyfer pob anifail a gedwir yng Nghymru.
Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2018, cynhaliodd fy swyddogion gyfres o weithdai ar draws Cymru i ofyn i randdeiliaid am eu syniadau ar gyfer system trwyddedu ATE yn y dyfodol, ac i feithrin gwell dealltwriaeth o’r effaith y gallai system o'r fath ei chael ar y rheini a fydd yn ei gorfodi, ar sefydliadau lles ac ar bobl sy'n cynnal ATE. Rhoddodd 62 o unigolion, a oedd yn cynrychioli 41 o sefydliadau, o'u hamser i drafod gyda swyddogion ac i rannu'r wybodaeth sydd ganddynt, a hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad.
Roedd y gweithdai'n gyfle i gynnal trafodaeth agored am yr amcan o hyrwyddo lles anifeiliaid, ond gan gofio ar yr un pryd fod angen i unrhyw system fod yn un gymesur −ar gyfer sector sydd, yn bennaf, yn cynnwys busnesau bach, a hefyd ar gyfer awdurdodau gorfodi sydd wedi gorfod ymdopi ers blynyddoedd â llai o adnoddau.
Roedd y mwyafrif llethol o blaid y cynnig, yn benodol, y cyfle gwych y mae'n ei gynnig i hyrwyddo parch ac agweddau cyfrifol at anifeiliaid drwy'r sefydliadau hynny sydd yn y rheng flaen. Roedd pawb o'r farn bod yr ymwneud rhwng pobl ac anifeiliaid yn rhywbeth pwysig i'w gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ond cyfeiriwyd ym mhob un o'r gweithdai at yr angen i bennu safonau gofynnol ar gyfer llociau anifeiliaid, wrth iddynt gael eu cludo a hefyd wrth iddynt gael eu harddangos. Dywedwyd hefyd fod yn rhaid wrth fframwaith er mwyn sicrhau bod y safonau hynny'n cael eu bodloni.
Bydd yr adborth a gafwyd yn ystod y gweithdai yn sail i ymgynghoriad cyhoeddus llawn a manwl a fydd yn cael ei gynnal eleni.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n holl randdeiliaid am eu cefnogaeth barhaus ac i'w hannog i barhau â'r drafodaeth hon yn ystod 2019. Drwy gydweithio, gallwn ddatblygu system drwyddedu gadarn a chymesur a fydd yn diwallu anghenion ein rhanddeiliaid ac yn cael effaith barhaol ar safonau lles anifeiliaid yng Nghymru.