Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:


Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r newyddion diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ynghylch Ardaloedd Menter yng Nghymru.

Ym mis Ionawr 2012 gwnes gadarnhau’r pum Ardal Fenter sef:

  • Ardal Fusnes Canol Caerdydd;
  • Sain Tathan (gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd);
  • Glynebwy;
  • Glannau Dyfrdwy;
  • Ynys Môn.

Cafodd yr Ardaloedd Menter hyn eu lansio’n swyddogol ar 1 Ebrill. Golyga’r amserlen hon ein bod yn cyd-fynd â gwaith cyfatebol yn Lloegr a’r Alban.  

Cyhoeddais ym mis Ionawr yn ogystal y byddwn yn mynd ati i ddatblygu dwy Ardal Fenter bosibl arall, sef Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Sir Benfro ac Eryri yng Ngwynedd. Mae fy swyddogion wedi cydweithio â sefydliadau a phartneriaid lleol dros y misoedd diwethaf er mwyn ceisio datblygu’r cynigion hyn ymhellach.  

Cafodd Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac Eryri eu dewis oherwydd eu pwysigrwydd strategol ac oherwydd bod yr hyn y maent yn ei gynnig mor unigryw. Golyga’r ffaith bod tua 30% o gyflenwadau ynni’r DU yn dod drwy Sir Benfro fod Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn cynnig cyfle i ni ddatblygu safleoedd ynni cyfredol a rhai newydd posibl. Cyn Orsaf Bŵer Trawsfynydd fyddai canolbwynt Ardal Fenter Eryri. Mae gan yr ardal weithlu amrywiol, profiadol a sefydlog a byddai ennill statws Ardal Fenter yn creu cyfle i fanteisio ar yr asedau unigryw hyn a’u datblygu.  

Mae’n bleser gennyf gadarnhau heddiw y bydd Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac Eryri yn ennill statws Ardaloedd Menter. Yn unol â’r modd yr ydym wedi mynd ati i ddatblygu polisi ynghylch yr Ardaloedd Menter byddaf yn cyhoeddi mapiau yn dangos ffiniau Ardaloedd Menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac Eryri maes o law. Bydd y mapiau hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru gerllaw mapiau Ardaloedd Menter eraill Cymru.    

Yn sicr, mae’r Ardaloedd Menter ychwanegol hyn yn newyddion da i’r Canolbarth a’r Gorllewin. Nid ennill statws Ardal Fenter yw’r cam olaf fodd bynnag – mae’n rhaid cynnal y momentwm a cheisio sicrhau bod ein Hardaloedd Menter yn cynnig cyfleoedd effeithiol, deniadol a pherthnasol i fusnesau.    

Mae Cadeiryddion a Byrddau’r Ardaloedd Menter, a arweinir gan y sector preifat i raddau helaeth, yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ymwneud â’r ardal leol a chyflenwi mewn modd sy’n hyblyg ac yn ymateb i anghenion busnesau.    

Rwy’n sefydlu trefniadau tebyg ar gyfer Ardaloedd Menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau
ac Eryri heddiw. Mae’n bleser gennyf groesawu Nick Bourne a John Idris Jones i’w swyddi fel Cadeiryddion dros dro Ardaloedd Menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac Eryri.

Bu Nick yn Ddeon ar Ysgol y Gyfraith Abertawe a bu’n Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am 12 mlynedd ac yn arweinydd ar Grŵp y Ceidwadwyr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n adnabyddus iawn ac yn uchel ei barch ymhlith rhanddeiliaid lleol allweddol ac mae ganddo’r profiad a’r cysylltiadau ar gyfer gwireddu uchelgeisiau Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau.  

Mae John mewn sefyllfa ddelfrydol i arwain datblygiadau o fewn Ardal Fenter Eryri. Mae ganddo dros 30 o flynyddoedd o brofiad o weithio yn sector yr Amgylchedd ac Ynni ac fel rheolwr datblygu economaidd-gymdeithasol Magnox yng Nghymru. Gall John yn sicr gynnig yr arweiniad gorau posibl i Ardal Fenter Eryri. Golyga’r ffaith bod John hefyd yn aelod o Fwrdd Ardal Fenter Ynys Môn fod modd creu cysylltiadau rhwng y ddwy ardal.  

Rwy’n siŵr y bydd Nick a John yn gwneud cyfraniad sylweddol, gan fwrw ati i gyflawni, ac edrychaf ymlaen at dderbyn cyngor doeth a heriol ganddynt.  

Byddaf yn cyflwyno datganiad mwy cyflawn ynghylch yr Ardaloedd Menter maes o law. Bydd y datganiad hwn yn cynnwys y newyddion diweddaraf ynghylch Lwfansau Cyfalaf Uwch ac ysgogiadau polisi eraill.