Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Mae’r mudiad Black Lives Matter wedi tynnu sylw at nifer o faterion pwysig y mae angen inni fynd i’r afael â hwy fel gwlad. Un yw yr angen i Gymru ystyried y pethau hynny sy’n ein hatgoffa o orffennol y wlad. Mae hyn yn arbennig o wir wrth inni edrych ar erchyllterau’r fasnach gaethwasiaeth.
Mae rhai o’n hadeiladau hanesyddol yn ein hatgoffa o’r cyfnod anodd hwn yn ein hanes. Gallai rhai ohonynt ymddangos eu bod yn creu arwyr o ffigurau hanesyddol a weithredodd mewn ffordd yr ydym yn ei chondemnio bellach. Mae’n bosibl fod unigolion sy’n gysylltiedig â’r fasnach gaethwasiaeth yn cael eu cofio mewn enwau strydoedd neu enwau adeiladau cyhoeddus. Maent yn goffadwriaeth o orffennol nad ydym wedi ei herio’n llawn ac mae gofyn inni ei herio nawr.
Mae’n bryd inni ystyried yn iawn sut mae bywydau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu cynrychioli yn nhreftadaeth Cymru. Mae angen inni ailedrych ar y gwerth a roddir i rai o’n henebion a’n hadeiladau cyhoeddus ac ystyried beth mae hyn yn ei ddweud amdanom ni, ein cymdeithas heddiw a’n hanes cyffredin.
I ddechrau’r drafodaeth hon, cynhelir prosiect dau gam.
Y cam cyntaf fydd cynnal archwiliad o henebion a chofgolofnau hanesyddol Cymru, ac enwau strydoedd ac adeiladau cyhoeddus, a nodi’r safleoedd a’r enwau hynny sy’n gysylltiedig â hanes cymunedau du yng Nghymru, ac yn benodol y fasnach gaethwasiaeth. Rwy’n disgwyl i’r cam hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd Hydref.
Rwyf yn falch iawn o ddatgan y bydd Gaynor Legall yn arwain y grŵp gorchwyl a gorffen i gynnal yr archwiliad. Mae Gaynor yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae ganddi ymrwymiad dwfn ers amser i hanes a threftadaeth mudwyr, mewnfudwyr a lleiafrifoedd yng Nghymru. Caiff ei chefnogi gan dîm bychan fydd yn cael ei ddewis oherwydd eu gwybodaeth arbenigol o hanes cymunedau du yng Nghymru a rôl yr Ymerodraeth Brydeinig a’r fasnach gaethwasiaeth, fel y mae’n berthnasol i Gymru.
Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn rhannu canfyddiadau’r archwiliad gyda grŵp cyfeirio allanol, fydd yn cynnwys cynrychiolaeth gan grwpiau o fewn y gymuned ehangach a rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl ifanc.
Gyda chanlyniadau’r camau hyn, byddwn yn symud i’r ail gam i benderfynu sut y gallwn symud ymlaen gyda’n gilydd a mynd i’r afael â’r pryderon y mae’n tynnu sylw atynt.
Mae ein hamgylchedd hanesyddol, ein henebion ac enwau ein strydoedd a’n hadeiladau, yn ddatganiadau ynghylch pwy ydym a beth ydym yn ei anrhydeddu fel cymdeithas. Maent yn trosglwyddo o un oes i’r nesaf werthoedd ac egwyddorion ein cyfnod. Mae’r gwerthoedd a’r egwyddorion hyn yn newid – ac felly mae’n iawn bod pwy a’r hyn yr ydym yn dewis ei goffáu hefyd yn datblygu.
Nid ailysgrifennu’r gorffennol yw hyn – ond yn hytrach ei ystyried â’r cyfiawnder haeddiannol. Os caiff ei wneud yn y ffordd iawn, gallwn greu perthynas gyfoethocach a doethach â’n hanes. Gallwn ddod o hyd i storïau a ffigurau newydd i’w dathlu. Gallwn ddangos Cymru sy’n dathlu ein cymunedau amrywiol mewn ffordd haeddiannol. Dyma’r hyn y mae ein gorffennol yn ei haeddu ac y mae ein presennol am ei weld, a dyma sydd yn iawn.
Hefyd, bydd ein Gweinidog Addysg yn cyhoeddi yn fuan fanylion gweithgor i oruchwylio datblygiad adnoddau dysgu, ac i nodi bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant bresennol sy’n gysylltiedig â chymunedau BAME, eu cyfraniadau a’u profiadau. Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd ag adolygiad Estyn o hanes Cymru fydd yn ystyried yn llawn hanes, hunaniaeth a diwylliant BAME yng Nghymru ac yn ehangach.