Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau
Mae'n bleser gennyf eich hysbysu bod Archwiliad Sgiliau Strategol Cenedlaethol i Gymru (NSSAW) 2012 wedi'i gyhoeddi. Roedd y gwaith o baratoi'r dadansoddiad hwn yn rhan o brosiect sy'n mynd rhagddo i ddatblygu ac i wella'r wybodaeth sydd gennym am y farchnad lafur. Mae sgiliau'n gwbl allweddol er mwyn sbarduno cynhyrchiant. Drwy wella'r wybodaeth sydd gennym am sgiliau, o ran pa sgiliau sydd ar gael ac o ran pa sgiliau y mae galw amdanynt, drwy wella'r modd y dehonglir yr wybodaeth honno, a thrwy geisio deall yn well y grymoedd sy'n dylanwadu ar y farchnad lafur, bydd modd cefnogi dyhead Llywodraeth Cymru i sicrhau'r perfformiad economaidd gorau posibl a hyrwyddo llwyddiant busnesau. Mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad at y gwaith sy'n mynd rhagddo i greu dull o ddatblygu sgiliau sy'n seiliedig ar anghenion y farchnad lafur: dull, rwyf yn falch o ddweud, sy'n fodd i ofalu y bydd y system sgiliau yn bodloni'r galw presennol mewn modd effeithiol a hefyd yn nodi ac yn rhagweld gofynion y dyfodol, gan ddylanwadu arnynt a'u symbylu. Mae adroddiad NSSAW 2012 yn nodi'r galwedigaethau a'r sectorau hynny y mae angen rhoi'r sylw mwyaf iddynt er mwyn sicrhau bod gan Gymru'r sgiliau hanfodol y mae eu hangen arni i fodloni gofynion y farchnad lafur ar hyn o bryd ac i ymdopi â newidiadau tebygol i batrymau cyflogaeth yn y dyfodol.
Cyhoeddais ym mis Tachwedd 2012 fod Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau wedi cyhoeddi dau adroddiad a oedd yn ymdrin yn benodol â Chymru. Mae'r adroddiadau hynny, a enwir isod, yn sylfeini cryf a pherthnasol ar gyfer adroddiad NSSAW 2012:
- Working Futures 2010-2020: Summary Report for Wales; ac
- Employer Skills Survey 2011: Wales National Report.
Fel yn achos pob amcanestyniad a rhagolwg, Cyngor Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau yw y dylid ystyried mai arwydd yw'r canlyniadau yn Working Futures
2010-2020 (ac sy'n cael eu hatgynhyrchu yn NSSAW 2012) o dueddiadau a graddfeydd tebygol sy'n seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd patrymau ymddygiad a pherfformiad a welwyd yn y gorffennol yn parhau, yn hytrach nag edrych ar y canlyniadau hynny fel rhagolygon manwl o'r hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol.
Un o elfennau allweddol NSSAW 2012 yw'r angen i bennu blaenoriaethau strategol ar gyfer sgiliau, yn awr ac yn y dyfodol, er mwyn helpu i sicrhau bod y sgiliau priodol ar gael, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ar gyfer yr economi, ar gyfer mentrau economaidd y Llywodraeth, ac ar gyfer sectorau/rhanbarthau penodol. Dyma rai o'r prif nodweddion a nodir yn yr adroddiad:
Rheolwyr
- Galw cynyddol o ran sgiliau ac o ran nifer y swyddi ym maes rheoli corfforaethol, a hynny yn y sector cyfanwerthu/manwerthu a'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn bennaf.
- Yr angen i wella gallu rheolwyr i fanteisio ar dechnoleg er mwyn sicrhau'r manteision gorau posibl i fusnesau ar draws nifer o sectorau gwahanol.
Gweithwyr Proffesiynol
- Galw mawr o hyd am weithwyr addysg proffesiynol yn y sector addysg.
- Galw mawr am weithwyr iechyd proffesiynol (ymarferwyr meddygol yn bennaf).
Crefftau medrus
- Galw o hyd am weithwyr ym maes crefftau adeiladu medrus, ac ym maes crefftau metel, trydanol ac electronig. Awgrymir yn yr amcanestyniadau ein bod yn debygol o weld gostyngiad net yn y niferoedd a fydd yn gweithio ym maes crefftau metel medrus ac ym maes tecstilau, ond y bydd galw am niferoedd sylweddol o weithwyr newydd ar draws yr holl alwedigaethau ym maes y crefftau medrus.
Galwedigaethau gofal
- Galw cynyddol am weithwyr mewn galwedigaethau ym maes gofal a gwasanaethau personol, gan gynnwys cynorthwywyr gofal.
Nodir hefyd dair sgìl drawsbynciol:
- Sgiliau i gefnogi effeithlonrwydd ynni, i leihau faint o ddeunyddiau a gaiff eu defnyddio ac i wella'r modd y caiff adnoddau eu defnyddio mewn economi carbon isel.
- Cyflogadwyedd a sgiliau sylfaenol (gweithio mewn tîm, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd).
- Sgiliau yn y Gymraeg.
Byddaf yn sicrhau bod NSSAW 2012 yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo unigolion, cyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant, cynghorwyr gyrfaoedd a sgiliau, a gwneuthurwyr polisi, i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth a gwybodaeth. Gobeithio hefyd y bydd yn helpu i annog rhanddeiliaid i gyfathrebu gyda Llywodraeth Cymru a chyda'i gilydd.
Mae rhagor o fanylion am y meysydd gweithredu i'w gweld yn yr adroddiad ar-lein.
I gael rhagor o wybodaeth am Archwiliad Sgiliau Strategol Cenedlaethol i Gymru 2012 neu brosiect Gwybodaeth am y Farchnad Lafur Llywodraeth Cymru, cysylltwch â: LMI@cymru.gsi.gov.uk.