Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd y Grŵp Craidd Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth i gefnogi gweithredu'r Argymhellion Archwiliad Dwfn: cyfres o gamau gweithredu ar y cyd y gallwn eu cymryd yng Nghymru i gefnogi adferiad natur. 

Yn ddiweddar, cefais y pleser o gadeirio fy Nghyfarfod Grŵp Craidd cyntaf. Roeddwn yn falch iawn o glywed am y gwaith helaeth sydd eisoes wedi'i wneud i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r argymhellion. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i aelodau'r Grŵp Craidd, y grwpiau arbenigol, ac unigolion eraill am eu cefnogaeth a'u cyfraniadau parhaus. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Grŵp Craidd a rhanddeiliaid i yrru camau gweithredu ymlaen. Isod mae trosolwg o gamau gweithredu allweddol a gymerwyd ers y diweddariad blaenorol. 

Un cam allweddol yw trawsnewid ein cyfres o safleoedd gwarchodedig er mwyn i’r gyfres fod yn well, yn fwy, ac wedi ei chysylltu’n fwy effeithiol.

Cwblhawyd cam cyntaf y Map Rhwydweithiau Natur ym mis Gorffennaf 2023, gan sicrhau bod setiau data allweddol a thystiolaeth ar gysylltedd cynefinoedd ar gael mewn ffurf gyson wedi’i diweddaru trwy MapDataCymruPorth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru

Rydym yn parhau i helpu i wella cyflwr a chysylltedd ein safleoedd gwarchodedig, drwy'r Rhaglen Rhwydweithiau Natur (NNP),dyrannwyd £15m yn 2023/24 a £17m arall yn 2024/25 i gynorthwyo gyda gwella'r broses o gyflawni'r NNP. 

Rydym yn parhau i roi arian cyfatebol i brosiectau LIFEquake, Pedair Afon LIFE, a Natur am Byth o dan arweiniad CNC. 

O ran materion morol, mae gwella ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA) yn dal i fod yn ymrwymiad a rhan o Raglen Cwblhau Rhwydwaith MPA. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyrff Cadwraeth Natur Statudol a rhanddeiliaid i ddatblygu safleoedd posibl, gan asesu effeithiau economaidd-gymdeithasol unrhyw ddynodiadau arfaethedig. 

Rydym hefyd yn creu fframwaith i gydnabod Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur a Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill yn seiliedig ar Ardal sy’n cyflawni canlyniadau bioamrywiaeth.

Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, sefydlwyd gweithgor arbenigol a gofynnwyd iddo argymell prosesau a meini prawf ar gyfer adnabod, monitro ac adrodd ar Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur (NREAs) presennol ac sy'n ymgeisio a Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill yn Seiliedig ar Ardal (OECMs) yng Nghymru. Yn ddiweddar, mae'r grŵp wedi cynhyrchu adroddiad argymhelliad ychwynnol a fydd yn llywio'r camau nesaf.

Rydym wedi ymrwymo i ddatgloi potensial tirweddau dynodedig (Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol) i gyflawni mwy ar gyfer natur.

Mae grŵp arbenigol Tirweddau Dynodedig wedi nodi nifer o ffrydiau gwaith â blaenoriaeth i'w datblygu. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu cyfres o fapiau Gweithredu Adferiad Natur â Blaenoriaeth ar gyfer pob Tirwedd Ddynodedig sy'n tynnu sylw at flaenoriaethau a chyfleoedd ar gyfer cadwraeth ac adfer natur ar raddfa tirwedd.

Mae'n rhaid i gynlluniau rheoli y Parc Cenedlaethol a Thirwedd Cenedlaethol sicrhau bod yr argyfwng natur a'r hinsawdd yn ganolog i'w gwaith, felly rydym wedi gweithio gyda CNC i ddiweddaru ei ganllawiau Cynllunio Rheoli. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn ddiweddarach eleni.

Mae CNC yn parhau i asesu'r achos manwl dros Barc Cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru a bydd yn ymgynghori ar gynigion yn ddiweddarach eleni. Rydym yn gweithio gyda CNC i sicrhau bod lliniaru newid yn yr hinsawdd ac adfer natur yn flaenoriaeth ar gyfer cyflawni mewn Parc Cenedlaethol newydd. 

Byddwn yn parhau i ddiwygio proses reoli a chynllunio tir a morol (gan gynnwys gofodol) er mwyn cyflawni mwy dros safleoedd gwarchodedig a thirweddau / morweddau ehangach.

Cyhoeddwyd Polisi Cynllunio Cymru - Rhifyn 12 ym mis Chwefror 2024 a chafodd y Polisi SoDdGA a'r Dull Stepwise eu cryfhau a'u diweddaru. 

Rydym wedi ymrwymo i gryfhau canllawiau ar gyfer Polisi 9 yn Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 , rhaglen beilot drwy ardal Adnoddau Naturiol Gwastadeddau Gwent. O fis Hydref 2023, neilltuwyd rheolwr prosiect i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, gan weithio gyda'r grŵp Gorchwyl a Gorffen i helpu i ddarparu arweiniad pellach ar Bolisi 9. 

Rydym wedi gweithio gyda CNC i ddatblygu mapiau sy'n dangos ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer cynllunio morol. Mae'r mapiau, sydd bellach ar gael ar Fap Data Cymru, yn dod â data at ei gilydd ar gyfer adar, mamaliaid morol, cynefinoedd gwely'r môr a physgod fel y gall cynigion datblygu newydd eu hystyried yn well ar gamau cynnar cynllunio. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i adeiladu sylfaen gref ar gyfer cyflawni yn y dyfodol drwy feithrin gallu, newid ymddygiad, codi ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau

Cyhoeddwyd adroddiad Canlyniadau Sgiliau Sector Sero Net ym mis Mehefin 2024 a bydd yn llywio datblygiad Mapiau Ffordd y Sector a chamau gweithredu allweddol i gefnogi datblygiad sgiliau sector-benodol. 

Mae ein hymgyrch genedlaethol Gweithredu ar Hinsawdd Cymru yn parhau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac i egluro cyd-fanteision gweithredu ar lefel cartref a chymunedol. Trwy fentrau fel Wythnos Hinsawdd Cymru a'r gronfa Sgyrsiau Hinsawdd, rydym yn parhau i gynnwys pobl wrth wneud penderfyniadau'r Llywodraeth. Bydd y digwyddiad nesaf ym mis Tachwedd yn annog trafodaeth ar rôl natur wrth lunio dyfodol sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd yn well.

Trwy rownd ddiweddaraf cynllun Cronfa Adeiladu Capasiti Arfordirol, rydym yn cefnogi 11 o brosiectau i weithredu cynaliadwy, gan gyflymu twf ac adferiad mewn ardaloedd morol ac arfordirol lleol. Mae Partneriaeth yr Arfordir a'r Moroedd bellach yn datblygu camau pellach i wella gallu a datblygu sgiliau yn yr amgylchedd morol. 

Byddwn yn anelu at ryddhau buddsoddiad preifat er mwyn cyflawni ar gyfer natur yn gyflymach ac ar raddfa fwy

Rydym yn datblygu dull newydd o ymdrin â chyllid cynaliadwy i gynyddu ac arallgyfeirio'r cyllid sydd ar gael ar gyfer adfer natur. Gan gydnabod y pryderon dilys sy'n bodoli am gyllid cynaliadwy, byddwn yn ymgynghori cyn hir ar gyfres o egwyddorion i lywio ein polisi. Bwriad yr egwyddorion hyn yw sicrhau bod unrhyw gyllid yn gywir, o fudd ac yn ymgysylltu â chymunedau lleol, yn atal newid defnydd tir yn amhriodol ac yn osgoi gwyrddolchi. 

Yn ddiweddar, rwyf wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y tair blynedd nesaf i CGGC gyflogi rheolwr datblygu ar gyfer cronfa MARINE Cymru. Mae'r gronfa yn gydweithrediad â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) fel partner cyflawni, a Gweithgor Buddsoddi Glas Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru sy'n canolbwyntio ar wella'r moroedd. 

Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer Pennaeth Datblygu Cyfalaf Naturiol newydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Y Bannau). Gan integreiddio dibenion y Parciau Cenedlaethol a'u rhinweddau unigryw, bydd y swydd yn cynyddu cyllid adfer natur trwy archwilio a gweithredu marchnadoedd gwasanaeth ecosystem trachywir. 

O ran datblygu ac addasu fframweithiau monitro a thystiolaeth i fesur cynnydd tuag at y targed 30 x 30 a llywio’r broses o flaenoriaethu camau gweithredu rydym wedi sefydlu gweithgor arbenigol gyda'r dasg o ddatblygu fframweithiau monitro a thystiolaeth gadarn a phriodol ar gyfer '30 wrth 30' a thargedau ehangach adfer natur. Yn ddiweddar, mae'r grŵp wedi cynhyrchu adroddiad argymhelliad cychwynnol a fydd yn arwain y camau nesaf ar gyfer gweithredu.

Er mwyn rhoi adferiad natur wrth wraidd polisi a strategaeth mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru rydym wedi ymrwymo i ddatblygu targedau bioamrywiaeth sydd wedi eu rhwymo mewn cyfraith Fe wnaethom gyhoeddi Papur Gwyn ac ymgynghoriad ym mis Ionawr 2024. Rydym wedi ystyried adborth rhanddeiliaid a byddwn yn cyhoeddi ein hymateb polisi i'r ymgynghoriad cyn bo hir.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.