Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Dros yr haf, rwyf wedi bod yn gweithio gyda grŵp o arbenigwyr ac ymarferwyr allweddol i gynnal Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth i ddatblygu cyfres o gamau cydweithredol y gallwn eu cymryd yng Nghymru i gefnogi adferiad natur. Dewiswyd y targed 30x30 fel ffocws strategol at ddiben yr archwiliad dwfn i ystyried ble a sut y gellid cyflymu camau. Mae 30x30 yn cyfeirio at warchod a rheoli yn effeithiol o leiaf 30% o'n tir, dŵr croyw a môr ar gyfer natur erbyn 2030. Mae'n un o nifer o dargedau sy'n rhan o Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (GBF) newydd i'w gytuno yn COP15 yn ddiweddarach eleni.
Nododd y grŵp themâu ac argymhellion allweddol ar gyfer camau gweithredu penodol. Mae'r rhain yn adeiladu ar ymrwymiadau presennol fel y cynllun gweithredu i fynd i'r afael â llygredd ffosfforws yn ein hafonydd. Mae'r argymhellion yn gymysgedd o gamau newydd y gallwn eu cymryd ar unwaith, ehangu a chyflymu cynlluniau presennol, a chamau mwy hirdymor a fydd yn sicrhau manteision drwy gydol tymor y Senedd hon a thu hwnt.
Trawsnewid ein cyfres o safleoedd gwarchodedig er mwyn i’r gyfres fod yn well, yn fwy, a chael ei chysylltu’n fwy effeithiol
Un o’r blaenoriaethau fydd trawsnewid ein safleoedd gwarchodedig daearol, dŵr croyw a morol presennol. Byddwn yn gwneud hyn drwy ehangu a chyflymu ein Rhaglen Rhwydweithiau Natur i helpu i wella cyflwr a’r cysylltiad rhwng ein safleoedd gwarchodedig, a'u gwneud yn fwy gwydn i effeithiau newid hinsawdd.
Byddwn yn cynyddu'r uchelgais a nodir yn ein Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, er mwyn i’r rhaglen gyflawni erbyn 2030 ar raddfa sy'n gallu cyrraedd targed sero net 2050 o adfer 45,000 hectar o fawndir.
I gefnogi dulliau partneriaeth cydweithredol ar y lefel leol, byddwn yn buddsoddi yn ein Partneriaethau Natur Lleol (LNPs). Mae Partneriaethau Natur Lleol yn dod â sefydliadau, busnesau a chymunedau at ei gilydd i gymryd camau ar y cyd i fynd i'r afael â blaenoriaethau lleol.
Morol
Byddwn yn cyflymu camau i gwblhau rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA), er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â diffygion o ran gwarchod cynefinoedd a nodweddion. Bydd hyn yn golygu bod rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig wedi’i gysylltu ac yn gydlynol yn ecolegol, gan wella gwytnwch a chyflwr.
Byddwn yn cwblhau'r gwaith o asesu’r modd y mae offer pysgota posibl yn rhyngweithio â nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Bydd hyn yn ein galluogi i ddeall pa ddifrod y mae'r rhain yn ei wneud i nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig a pha fesurau rheoli y gallai fod eu hangen i atal hyn.
Creu fframwaith i gydnabod Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur a Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill ar sail Ardal (OECMs) sy'n cyflawni canlyniadau bioamrywiaeth
Byddwn yn creu rhwydwaith o Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur ar draws amrywiaeth o gynefinoedd lled-naturiol gwahanol, gan helpu i ddangos sut y gellir cymryd camau effeithiol i atal colli bioamrywiaeth a chynorthwyo adferiad natur. Ochr yn ochr ag Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur, byddwn hefyd yn archwilio'r defnydd o gysyniad newydd: Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill ar sail Ardal (OECM).
Byddaf yn sefydlu gweithgor arbenigol i nodi'r Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur ac OECMs posibl, gan gynnwys y dulliau rheoli a chyllido sydd eu hangen i sefydlu'r rhain. Bydd y grŵp yn adrodd i mi o fewn chwe mis o’i sefydlu.
Rhyddhau potensial tirweddau dynodedig (Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) i gyflawni mwy ar gyfer natur
Rwyf am ddefnyddio'r potensial sydd heb ei ddefnyddio o fewn y tirweddau dynodedig hyn i gyflawni mwy ar gyfer bioamrywiaeth a chefnogi adferiad natur. Byddwn yn cefnogi Parciau Cenedlaethol ac AHNE i ddatblygu cynllun gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer adfer natur, gan roi’r rhain wrth wraidd gwaith cynllunio strategol. Yn y tymor hirach, byddwn yn sicrhau bod dynodi Parc Cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn rhoi cyfleoedd sylweddol i liniaru effeithiau newid hinsawdd ac adfer natur, a bod y rhain yn rhan annatod o flaenoriaethau cyflawni allweddol ar gyfer y parc newydd.
Parhau i ddiwygio gwaith rheoli a chynllunio tir a morol (gan gynnwys gofodol) i gyflawni mwy ar gyfer safleoedd gwarchodedig a thir / morweddau yn ehangach
Byddwn yn defnyddio dull gofodol strategol ar gyfer cynllunio a ategir gan dystiolaeth gadarn, megis Datganiadau Ardal. Byddwn yn cefnogi cynllunwyr a datblygwyr drwy wella canllawiau ac offer cynllunio. Byddwn yn galluogi gwaith sgrinio ceisiadau cynllunio sy’n fwy effeithiol er mwyn deall yn well yr effeithiau posibl gan gynigion.
Er mwyn ysgogi’r newid o ran y ffordd yr ydym yn defnyddio ein tir yng Nghymru, byddwn yn sicrhau bod y cymhellion cywir wedi'u dylunio i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn y dyfodol. Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynnwys camau arfaethedig, megis ffermwyr yn mynd ati i reoli o leiaf 10% o'u tir i gynnal a gwella cynefinoedd lled-naturiol, blaenoriaethu safleoedd dynodedig lle maent yn bodoli, a chreu nodweddion cynefinoedd newydd lle nad oes cynefinoedd lled-naturiol yn bodoli.
I gefnogi'r newid hwn, byddwn yn sicrhau bod ffermwyr a rheolwyr tir yn gallu cael gafael ar gyngor o ansawdd uchel sy'n eu galluogi i adnabod y camau rheoli sydd eu hangen i sicrhau canlyniadau amgylcheddol a gwella cynhyrchiant busnes y fferm.
Adeiladu sylfaen gref ar gyfer cyflawni yn y dyfodol drwy ddatblygu capasiti, newid ymddygiad, codi ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau
Byddwn yn cryfhau'r cysylltiad rhwng cymunedau lleol a byd natur, gan helpu pobl i ddeall y camau y gallant eu cymryd a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Byddwn yn sicrhau bod gennym y sgiliau a'r arbenigedd cywir ar gyfer y swyddi gwyrdd sydd eu hangen ar gyfer adfer natur, nawr ac yn y dyfodol. Byddwn yn ehangu ac yn gwella cynlluniau i gryfhau capasiti a gallu'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i gyflymu'r broses o gyflawni er mwyn adfer natur.
Rhyddhau buddsoddiad preifat er mwyn cyflawni ar gyfer natur yn gyflymach ac ar raddfa fwy
Rwy'n cydnabod y bydd canfod a sicrhau ffynonellau buddsoddiad preifat yn rhoi hwb i'n hymdrechion i fynd i'r afael ag adferiad natur, ac yn cefnogi modelau ariannu prosiectau mwy cynaliadwy. Fodd bynnag, ni ddaw hyn heb risg, yn enwedig i gymunedau lleol. Er mwyn lliniaru'r risgiau hyn, byddwn yn nodi pa ymyriadau y gallai fod eu hangen, ac yn datblygu egwyddorion ar gyfer buddsoddi'n gyfrifol i sicrhau bod unrhyw gyllid ychwanegol yn cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer adfer natur a'r nodau Llesiant ehangach.
Datblygu ac addasu fframweithiau monitro a thystiolaeth i fesur cynnydd tuag at y targed 30 erbyn 30 a llywio’r broses o flaenoriaethu camau gweithredu
Mae angen gwaith monitro effeithiol os ydym am olrhain cynnydd tuag at gyflawni’r targed 30x30. Bydd hyn hefyd yn sail i’r penderfyniadau a wneir i alluogi dull rheoli addasol sydd ei angen i sicrhau ecosystemau gwydn sy'n gallu addasu i bwysau ehangach, megis newid yn yr hinsawdd. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn gwerthuso ein hanghenion data, gan adeiladu ar y setiau data ac arferion da presennol a nodi anghenion ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn creu cyfleoedd i gydweithio'n well, sicrhau bod mwy o rôl ar gyfer gwyddoniaeth dinasyddion ac yn gwneud gwell defnydd o ddatblygiadau technolegol. Byddaf yn sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ar y ffordd orau o gyflawni hyn.
Arweinyddiaeth strategol
Mae'n hanfodol gweithredu nawr ac mae angen i Gymru sicrhau degawd o weithredu os ydym am fod yn bositif dros natur. Rwy'n cydnabod yn llawn bod angen inni gymryd camau uchelgeisiol ac integredig os ydym am roi natur ar y llwybr tuag at adferiad. Er mwyn gwneud hyn mae angen gweithredu ar y cyd i fynd i'r afael â'r materion a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.
Rwy'n hynod ddiolchgar i aelodau'r grŵp archwiliad dwfn, y rhai a gymerodd ran yn y grwpiau arbenigol a’r trafodaethau bwrdd crwn, ac am y mewnbwn a ddaeth o gyflwyniadau unigol. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'm gwaith gyda'r grŵp craidd wrth i ni fwrw ymlaen gyda'n gilydd fel ‘Tîm Cymru’ i fod yn bositif dros natur.