Jane Hutt MS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn archwilio ffyrdd y gall gefnogi’r gymuned Fyddar yng Nghymru a chefnogi’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL), yr ydym wedi ei chydnabod fel iaith yng Nghymru ers 2004.
Fel rhan o hyn, cynhaliodd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain archwiliad o bolisïau ac ymagweddau Llywodraeth Cymru gan fapio yn erbyn y pum ymrwymiad yn ei Siarter BSL. Mae’r Gymdeithas bellach wedi cyhoeddi adroddiad o’i chanfyddiadau.
Mae’r adroddiad yn argymell meysydd gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru ac yn gwella ein dealltwriaeth o ran sut y gallwn ni fel sefydliad wneud gwasanaethau yn gwbl gynhwysol i gydweithwyr ac ymwelwyr sy’n cyfathrebu drwy BSL - a sut y gallwn ymgorffori ystyriaethau tebyg wrth ddylunio polisïau a gwasanaethau ehangach.
Mae’r adroddiad yn ddarn pwysig o dystiolaeth i’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl ei ystyried yn ei waith, yn enwedig y Gweithgor Mynediad at Wasanaethau.
Mae'r adroddiad i'w weld yma: Audit of the Welsh Government for the BSL Charter 2022 (Saesneg yn Unig)