Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Yn yr hydref y llynedd, gofynnais i’m Prif Gynghorydd Tân ac Achub greu adroddiad ar arbedion effeithlonrwydd yn y Gwasanaeth Tân. Rwy’n cyhoeddi’r adroddiad hwn heddiw.
Gofynnais am yr adroddiad hwn oherwydd nad yw’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rhydd rhag y pwysau ariannol difrifol sy’n effeithio ar y sector cyhoeddus, ac nad oes modd iddo fod; mae’n rhaid i ni gymryd pob cam ymarferol i wneud arbedion effeithlonrwydd. Rwy’n gwybod bod y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru yn cymryd yr agenda hwn o ddifrif a’u bod wedi gwneud rhai arbedion nodedig yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae adroddiad y Prif Gynghorydd Tân ac Achub yn dyst i hyn. Mae’n cydnabod yr arbedion hyd yn hyn gan yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru, ac yn nodi nifer o enghreifftiau sy’n dangos cynnydd o ran cyfateb adnoddau â risg. Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod eu cyfraniad at ostyngiad sylweddol mewn tanau yng Nghymru, a’r gostyngiad o ganlyniad mewn marwolaethau, anafiadau a difrod i eiddo.
Fodd bynnag, mae lle i wneud mwy. Mae cost y gwasanaeth y pen a fesul achos yn parhau i fod yn gymharol uchel yng Nghymru. Er bod rhai rhesymau anhepgor dros hyn, mae angen i bob corff cyhoeddus fynd ati’n feirniadol ac yn barhaus i adolygu eu costau, a gwneud arbedion lle bynnag y bo cyfle i wneud hynny.
Mae’r Awdurdodau Tân ac Achub yn wahanol i gyrff cyhoeddus eraill mewn rhai ffyrdd pwysig. Mae’n rhaid iddynt barhau i allu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i danau ac achosion brys eraill ar unrhyw adeg. Gallai hyn gyfyngu ar y gallu i wneud arbedion, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig yng Nghymru, lle gall fod yn anodd newid y ddarpariaeth weithredol heb beryglu diogelwch y cyhoedd. Yr Awdurdodau Tân ac Achub sydd hefyd yn gosod eu cyllidebau eu hunain i bob pwrpas, ac yn eu hariannu drwy godi tâl ar awdurdodau lleol. Mae hyn yn rhoi cryn hyblygrwydd iddynt – ond mae’n rhaid iddynt arfer hyn yn ddoeth. Yn arbennig, dylent osgoi mynd ati’n anfwriadol i’w gwneud yn ofynnol i wasanaethau awdurdodau lleol wynebu toriadau mwy drwy barhau i gynyddu’r tâl y maent yn ei godi ar awdurdodau lleol. O ganlyniad, nid yw’r Awdurdodau Tân ac Achub yn atebol yn ffurfiol i haenau eraill o lywodraeth, y Cynulliad na’r etholwyr am eu penderfyniadau cyllid. Nid ydynt ychwaith yn gweld yn uniongyrchol y toriadau cyllideb y bu’n rhaid i ni eu gwneud mewn meysydd eraill. Mae hyn yn golygu ei bod yn hanfodol i arweinwyr yn y sector tân gymryd y cyfrifoldeb dros sicrhau mwy o arbedion effeithlonrwydd.
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu rhai ffyrdd o wneud hynny. Yn gyntaf, mae’n galw am fwy o weithredu i leihau achosion o dân. Dyma ddylai fod y nod pwysicaf. Mae record y gwasanaeth yn dda hyd yn hyn, ond mae angen i hyn barhau ac adlewyrchu patrymau cymdeithasol newydd – gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio a’r effaith ar batrymau risg yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu symud oddi wrth wasanaethau diffodd tân adweithiol tuag at wasanaethau diogelwch tân ataliol. Bydd hyn yn ei dro yn effeithio ar gyllid, darpariaeth, capasiti, gallu, rheolaeth a diwylliant y gwasanaeth.
Yn ail, mae’r adroddiad yn dadlau o blaid parhau i ganolbwyntio ar gostau darparu’r gwasanaeth. Nid yw hyn yn golygu cau gorsafoedd tân, a allai fod yn anodd mewn rhannau helaeth o Gymru. Fodd bynnag, mae’n golygu mabwysiadu arfer gorau o feysydd eraill, a sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio mor effeithiol ac effeithlon â phosibl. Er enghraifft, ar hyn o bryd mae’r tri gwasanaeth yn ymateb i fwy o alwadau diangen na thanau gwirioneddol; mae hyn yn arwain at gostau diangen ac yn atal cerbydau a chriwiau rhag ymdrin ag achosion go iawn. Mae modd gwneud mwy a dylid gwneud mwy i fynd i’r afael â’r broblem hon: rwy’n falch bod yn Awdurdod Tân ac Achub newydd benderfynu sefydlu system ar sail risg o ymateb i alwadau tân awtomatig.
Yn drydydd, mae’r adroddiad yn pwysleisio bod angen i’r tri Awdurdod Tân ac Achub barhau i gydweithio. Mae’r Pwyllgor Materion Cenedlaethol yn ffordd ymarferol o wneud hyn, ac mae eisoes wedi gwneud rhai arbedion. Ond gall hyn fynd ymhellach. Mae tystiolaeth mewn rhannau eraill o’r DU yn dangos y gall uno rhwng Awdurdodau Tân ac Achub sicrhau arbedion sylweddol iawn. Er nad wyf yn ystyried gwneud y fath beth yma, rwy’n disgwyl gweld arbedion cydweithredol ar raddfa debyg os nad yw newid strwythurol ar yr agenda o hyd. Rwy’n gobeithio gweld mwy o arbedion hefyd yn sgil datblygu’r berthynas rhwng yr Awdurdodau Tân ac Achub a’r Gwasanaethau Ambiwlans, a phartneriaid eraill.
Mae adroddiad y Prif Gynghorydd Tân ac Achub yn gwneud pedwar argymhelliad i gefnogi’r canfyddiadau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch egluro’n gweledigaeth a’n disgwyliadau ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol.
Rwy’n derbyn hyn a’r argymhellion eraill. Yn 2015, byddaf yn ymgynghori ar Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub statudol newydd, gan osod blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer yr Awdurdodau Tân ac Achub. Bydd y fframwaith yn datblygu’r themâu y mae’r Prif Gynghorydd Tân ac Achub wedi’u nodi. Rwy’n rhagweld y bydd yn gosod chwe egwyddor fras i’r gwasanaeth:
- Mynd ati yn barhaus ac yn gynaliadwy i leihau risg a gwneud dinasyddion a chymunedau yn fwy diogel;
- Ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i achosion;
- Bod yn atebol mewn ffordd eglur a chyhoeddus am ddarparu a chyllid, a meithrin y safonau llywodraethu uchaf;
- Cadw pwysau i lawr ar gostau a manteisio ar bob cyfle i wneud arbedion effeithlonrwydd;
- Gweithio’n effeithiol gyda phartneriaid i wella effeithlonrwydd a llesiant dinasyddion a chymunedau;
- Gwerthfawrogi a datblygu’r gweithlu i’r safonau uchaf.
Ni ddylai unrhyw un o’r egwyddorion hyn fod yn ddadleuol, ac ni ddylid eu hystyried ychwaith yn feirniadaeth ar wasanaeth â hanes balch o wella diogelwch dinasyddion a chymunedau. Mae’r adroddiad yn galw’n bennaf am gynnal a gwella patrymau presennol y gwasanaeth. Ond er mwyn gwneud hynny, bydd angen ymdrech gan aelodau, swyddogion a diffoddwyr tân yr Awdurdodau Tân ac Achub. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r gwasanaeth i wireddu hyn.