Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau
Ar 29 Medi 2011, lansiwyd yr Adolygiad o Gymwysterau pobl ifanc 14-19 oed yng Nghymru. Arweinir yr Adolygiad gan Fwrdd sy’n cynnwys aelodau allanol a swyddogion Llywodraeth Cymru, o dan gadeiryddiaeth Huw Evans OBE.
Ei nod yw ystyried sut y gallwn wireddu ein gweledigaeth trwy gynnig cymwysterau sy’n cael eu deall a’u gwerthfawrogi, ac sydd hefyd yn bodloni anghenion ein pobl ifanc ac economi Cymru. Penderfynwyd cynnal adolygiad oherwydd pryderon bod y system bresennol yn gymhleth a’i bod yn anodd ei deall, a hefyd fod amheuon am berthnasedd, gwerth a thrylwyredd rhai cymwysterau.
Rhwng Tachwedd 2011 a Mai 2012, bu aelodau’r Bwrdd a swyddogion yn cyfarfod ac yn gwrando ar farn nifer helaeth o randdeiliaid mewn cyfarfodydd a digwyddiadau ledled Cymru. Ymhlith y rhanddeiliaid hyn, roedd pobl ifanc, rhieni, ysgolion, colegau, cyflogwyr a phrifysgolion.
Lansiwyd yr ymgynghoriad ffurfiol gan Huw Evans a finnau ar 31 Mai, gan wahodd sylwadau am y prif faterion a oedd wedi codi yn ystod yr Adolygiad a gofyn barn am gynigion ac opsiynau ar gyfer y dyfodol. Daeth yr ymgynghoriad ffurfiol i ben ar 1 Medi ac erbyn hynny roedd dros 180 o ymatebion wedi dod i law.
Hoffwn sicrhau Aelodau’r Cynulliad, fod y Bwrdd, wrth drafod y ffordd ymlaen ar gyfer cymwysterau yng Nghymru, yn parhau i gynnal cydbwysedd rhwng yr angen i ymateb i’r datblygiadau diweddar ac ystyried y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr Adolygiad. Wrth reswm, mae’r Bwrdd yn llwyr ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf yng Nghymru a Lloegr o ran TGAU Saesneg Iaith, ac yn fwy cyffredinol, yr hyn a fydd yn digwydd i’r cymwysterau TGAU yn Lloegr yn ôl cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol ar 17 Medi. Fodd bynnag, mae’r Bwrdd Adolygu a’r Gweinidogion yn unfrydol eu bod am gymryd yr amser y mae ei angen arnynt i wneud penderfyniadau cytbwys a chynaliadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth briodol, er mwyn sicrhau bod y cymwysterau’n addas i’n pobl ifanc ac i’n heconomi yn y tymor hir. Yn benodol, mae’r Gweinidogion wedi ymrwymo i osgoi gwneud newidiadau sylweddol, a allai fod yn angenrheidiol, i gymwysterau TGAU nes i ganlyniadau’r Adolygiad ddod i law. Felly, yn ogystal ag ystyried y datblygiadau presennol, bydd y Bwrdd yn parhau i ystyried pob agwedd ar y dystiolaeth hirdymor. Mae’r Adolygiad wedi edrych ar lwyth o dystiolaeth a data ac wedi comisiynu ymchwil benodol iawn ar bynciau allweddol, er mwyn sicrhau bod gennym dystiolaeth gref ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi ynghylch cymwysterau yng Nghymru yn y dyfodol.
Fel bob amser, nod Gweinidogion wrth ymateb i argymhellion yr Adolygiad, fydd rhoi anghenion y dysgwyr yn gyntaf, gan sicrhau tegwch i bobl ifanc Cymru. Byddwn hefyd yn awyddus i barhau â dull gweithredu cynhwysol yr Adolygiad, gan weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid cyflawni i sicrhau bod unrhyw gynigion yn ymarferol a bod digon o gefnogaeth y tu ôl iddynt.
Disgwylir i’r Bwrdd gyflwyno ei adroddiad terfynol i mi ddiwedd Tachwedd 2012 yn unol â’r cynllun.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.