John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Yng ngoleuni cyhoeddi’r Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol a’r Papur Gwyn ar Amgylchedd Naturiol Lloegr, dyma roi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad am waith Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd naturiol, a hefyd nodi ein dull gweithredu.
Cyhoeddwyd Strategaeth Amgylcheddol gynhwysfawr gyntaf Cymru yn 2006 yn nodi’r dull o sicrhau bod tir, aer a dŵr Cymru yn cael eu defnyddio mewn modd mwy cynaliadwy. Cynhyrchir adroddiad blynyddol ar y cynnydd o ran cymryd y camau a nodir yn y Strategaeth.
Yng ngoleuni’r dystiolaeth newydd am iechyd ecosystemau, lansiwyd Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol, ‘Cymru Fyw’, ym mis Medi 2010 i ddiweddaru ein dull gweithredu a rhoi sylw i’r amgylchedd yn ei gyfanrwydd, gan ystyried yr holl fanteision a allai ddeillio o reolaeth well ar yr amgylchedd.
Ym mis Chwefror eleni, ar ôl yr ymgynghoriad cyntaf, cyhoeddwyd cynlluniau i fabwysiadu dull gweithredu newydd mewn perthynas ag ecosystemau.
Dyma’r prif newidiadau a welir o ddefnyddio’r dull newydd hwn:
- Ffocws ar werth yr amgylchedd yn ei gyfanrwydd, gan sicrhau canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cadarnhaol;
- Cyfleoedd i fwy o aelodau’r cyhoedd gymryd rhan ym materion yn ymwneud â’r amgylchedd;
- Dull gweithredu cadarnhaol i dirfeddianwyr, ffermwyr, pysgodfeydd, busnesau coedwigaeth, datblygwyr a diwydiannau a reoleiddir allu adlewyrchu’r nod cyffredin, sef datblygu cynaliadwy, gan sicrhau newidiadau amgylcheddol cadarnhaol yn hytrach na dim ond cadw’r hyn sydd gennym;
- Newidiadau i’n dull o gyflenwi polisïau, gwneud penderfyniadau a rheoli’r amgylchedd, er mwyn sicrhau bod ein cymunedau a’n bröydd yn cael elwa ar y safonau uchaf posibl o ran iechyd a lles;
- Sicrhau bod gan y cyrff cyhoeddus, sy’n gyfrifol am ddiogelu a gwella’r amgylchedd, yr hyn y mae ei angen arnynt i weithredu’r dull newydd.
- Ein nod a’n bwriad yw gwneud ecosystemau Cymru yn fwyfwy cadarn ac amrywiol a sicrhau bod yr ecosystemau hynny’n esgor ar fanteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.
Mae gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf i’w gweld ar wefan ‘Cymru Fyw’. Mae’n cynnwys papurau trafod ynghylch y gwasanaethau y mae’r amgylchedd naturiol yn eu darparu i’n cymdeithas ac ynghylch Cyfrifo Cyfalaf Naturiol – sy’n ymestyn y cysyniad economaidd traddodiadol o gyfalaf i gynnwys nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol.
Yr Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol
Roedd Llywodraeth Cymru yn un o noddwyr yr Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol a gyhoeddwyd ar 2 Mehefin. Cydlynodd y Ganolfan Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor y gwaith o gynhyrchu adroddiad cynhwysfawr ar gyfer Cymru.
Er bod y gwaith academaidd hwn wedi cael ei ddefnyddio i lunio ein dull gweithredu yn Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol, nid ein polisi ni ydyw. Er enghraifft, rydym yn defnyddio categorïau gwahanol o wasanaethau ecosystem yn ein gwaith ein hunain, a byddwn yn ystyried ein blaenoriaethau ein hunain ar gyfer defnyddio tir yn y dyfodol. Rydym am dynnu ar gasgliadau fel y rheini yn yr adroddiad ar Ddefnydd Tir a Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru, yn hytrach na defnyddio’r senarios enghreifftiol a nodir yn y prif adroddiad.
Roeddwn yn siomedig bod y cyfryngau wedi dewis cyhoeddi storïau am droi ucheldiroedd Cymru yn goedwigoedd, yn enwedig o ystyried bod arweinydd yr asesiad ei hunan wedi dweud y byddai newid o’r fath yn llesteirio ein nodau o ran arafu’r newid yn yr hinsawdd.
Papur Gwyn ar yr Amgylchedd Naturiol
Mae’r Papur Gwyn ar yr Amgylchedd Naturiol yn nodi’r polisïau ar gyfer Lloegr. Ac eithrio rhai gweithgareddau rhyngwladol a rhai agweddau eraill nad ydynt wedi’u datblygu, fel y cysyniad o Gyfrifo Cenedlaethol, nid yw’n cynrychioli polisi yng Nghymru. Yn hytrach, ‘Cymru Fyw’ sy’n nodi ein polisi a’n dull gweithredu.
Fodd bynnag, rydym yn croesawu’r ffocws arfaethedig ar gyfrifo gwerth yr amgylchedd yng Nghyfrifon Gwladol y DU. Rydym yn cytuno ei bod yn hanfodol gwneud yn siŵr bod y gwasanaethau y mae’r amgylchedd yn eu darparu i ni yn cael eu hadlewyrchu’n llawn er mwyn sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol.
Y Camau Nesaf
Fy mlaenoriaeth nawr o ran datblygu ‘Cymru Fyw’ yw rhoi’r dull gweithredu newydd ar waith yn ein cymunedau ledled Cymru.
Bydd yr Adran a’n hasiantaethau yn datblygu cyfres o brosiectau peilot ar ôl yr haf i dreialu’r dull gweithredu newydd yn lleol. Byddant yn edrych ar wahanol amgylcheddau, o’r rhai trefol i rai cefn gwlad a’r arfordir, gan ystyried sut y gellid eu defnyddio mewn modd mwy cynaliadwy dros gyfnod o amser. Rwyf hefyd am i ni edrych yn benodol ar rai o’n hamgylcheddau trefol sydd o dan bwysau mawr, er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn darparu ansawdd bywyd gwell i drigolion yr ardaloedd hynny trwy ystyried pob agwedd ar yr amgylchedd lleol.
Byddwn yn parhau i weithio’n agos â phawb sydd â diddordeb yn ein hamgylchedd a hoffwn ddweud pa mor ddiolchgar ydwyf i bob un sydd wedi cyfrannu mewn modd cadarnhaol at y gwaith o ddatblygu’r Fframwaith hyd yn hyn.