Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Mae’r datganiad hwn yn rhoi diweddariad i Aelodau’r Cynulliad ar y sefyllfa o ran diogelu gyrwyr beiciau modur ar y ffyrdd.
Credaf fod pob marwolaeth ar ein ffyrdd yn un farwolaeth yn ormod. Mae gwrthdrawiadau traffig, yn enwedig y rheini sy’n arwain at anafiadau difrifol a marwolaethau, yn bethau y mae modd eu hosgoi’n llwyr. Yn wir, gallant gael effaith enbyd ar y rheini sydd ynddynt a’u teuluoedd. Rwy’n ymwybodol o’r gwrthdrawiadau difrifol i yrwyr beiciau modur yn y De Ddwyrain yn ddiweddar, ond nid yw’n briodol imi wneud sylwadau ar unrhyw achos unigol.
Mae gyrwyr beiciau modur yn grŵp o ddefnyddwyr y ffyrdd sy’n arbennig o agored i niwed; mae’r ffaith fod nifer anghymesur ohonynt yn cael gwrthdrawiadau difrifol ar y ffyrdd yn arwydd o hyn. Er bod lleiafrif o yrwyr beiciau modur yn gyrru mewn modd amhriodol, mae’r mwyafrif yn ufuddhau i’r gyfraith ond yn fwy tebygol o gael eu hanafu o ganlyniad i unrhyw gamgymeriadau y byddant hwy eu hunain neu ddefnyddwyr eraill y ffyrdd yn eu gwneud.
Yn ystod y degawd diwethaf bu gostyngiad mawr yn nifer y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ein ffyrdd. Er bod hyn i’w groesawu’n fawr, rwy’n ymwybodol iawn fod llawer mwy i’w wneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod llai fyth o ddigwyddiadau pan fydd pobl yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol. Mae’r sefyllfa wedi gwella’n sylweddol yn achos y rhan fwyaf o grwpiau o ddefnyddwyr y ffyrdd, ond nid yw nifer y gyrwyr beiciau modur sy’n cael eu hanafu wedi gostwng i’r un graddau. Rydym ni a’n partneriaid wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r mater hwn.
Mae awdurdodau’r heddlu yng Nghymru yn gweithio’n galed iawn i wella diogelwch i yrwyr beiciau modur. Maent yn arwain y cynllun Beicio diogel sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflwyno ar y cyd â’r Gwasanaeth Tân ac Achub a’r awdurdodau lleol. Rhaglen hyfforddi a gynhelir drwy’r DU yw Beicio diogel, sy’n dysgu sgiliau uwch i yrwyr ac yn eu haddysgu am beryglon gyrru’n anaddas. Mae ein pedwar awdurdod heddlu (ac asiantaethau eraill, gan gynnwys Gan Bwyll a’r awdurdodau lleol) hefyd yn gweithio gyda’i gilydd i dargedu ffyrdd sy’n boblogaidd ymysg gyrwyr beiciau modur, yn enwedig ar ddyddiau braf a sych yn ystod misoedd yr haf, pan fydd mwy ohonynt o gwmpas. Addysg sy’n derbyn y sylw pennaf ganddynt – siarad â gyrwyr a’u cynghori ynghylch sut i gadw’n ddiogel. Maent hefyd yn targedu rhai ffyrdd â mesurau gorfodi, er mwyn perswadio pobl i beidio â gyrru’n beryglus.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £6.5 miliwn i awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd. Defnyddir cyfran o’r arian i ddarparu cyhoeddusrwydd a hyfforddiant er mwyn sicrhau bod llai o yrwyr beiciau modur yn cael damweiniau. Er enghraifft, mae cynllun peilot ar sgiliau gyrru uwch yn cael ei gynnal yn y De Orllewin ar hyn o bryd. Fe’i cyflwynwyd i ategu’r cynllun Beicio diogel a chaiff ei werthuso er mwyn gweld a yw’n addas ar gyfer ei gyflwyno ar draws Cymru. Credaf fod hwn yn waith gwerthfawr sydd wedi cyfrannu at sicrhau bod llai o yrwyr beiciau modur yn cael eu hanafu, a hynny am y bumed flwyddyn yn olynol.
Er hynny, credaf fod llawer mwy y gallwn ei wneud i ostwng y niferoedd hyn. Dyna pam y byddwn yn pennu targed cenedlaethol penodol ar gyfer lleihau nifer y gyrwyr beiciau modur sy’n cael eu hanafu yn y Cynllun Cyflawni Diogelwch ar y Ffyrdd, y byddaf yn ymgynghori yn ei gylch yn ystod y misoedd nesaf. Credaf y bydd hyn yn cyfrannu at sicrhau bod pob sefydliad sy’n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd yn canolbwyntio ar y grŵp hwn, fel y gallwn sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen mor daer.