Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fis Tachwedd y llynedd, fe wnes i ddatgan fy phenderfyniadau ynglŷn â dyfodol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Roedd hyn yn dilyn ymgynghoriad eang iawn ledled Cymru yn ystod haf 2011.  Mae adroddiad am yr ymgynghoriad a manylion fy mhenderfyniadau ar gael ar www.cymru.gov.uk/cymunedauyngyntaf, ynghyd â chanllawiau ynglŷn â threfniadau’r rhaglen newydd.

Dros y misoedd diwethaf, mae’r trafodaethau wedi bod yn parhau ymhob rhan o Gymru, ac mae cynlluniau’n mynd rhagddynt i greu Clystyrau Gymunedau yn Gyntaf sy’n newydd ac yn fwy o faint. Mae’r ceisiadau am gyllid ar gyfer y clystyrau hyn wrthi’n cael eu cwblhau, a rhaid eu cyflwyno i’m swyddogion erbyn 29 Mehefin. Yn seiliedig ar yr arwyddion a gafwyd hyd yn hyn, rwy’n disgwyl mymryn dros 50 o Glystyrau.

Mae’r newidiadau i’r rhaglen bresennol yn rhai sylweddol a chymhleth, ac mae’n eglur i mi y bydd yn cymryd amser i’r ceisiadau yma gael eu hasesu’n iawn, ac yna i’r rhaglen newydd ddod i drefn ymhob ardal. Rwyf eisoes wedi cymeradwyo estyniadau i holl gyllid presennol Cymunedau yn Gyntaf tan ddiwedd Medi 2012 fel bod cyfle i baratoi ceisiadau am y rhaglen newydd. Dyma ddatgan yn awr fy mod, mewn perthynas ag ardaloedd sy’n dod o fewn y ceisiadau a gyflwynir erbyn 29 Mehefin  – a dim ond yn yr ardaloedd hynny – yn fodlon caniatáu pedwar mis arall o estyniad i’r cyllid presennol, hyd at Ionawr 31 2013.

Cynigir yr estyniad pellach hwn oherwydd bod yn rhaid rhoi trefniadau’r rhaglen newydd ar waith cyn gynted â phosib ar ôl imi gymeradwyo cyllid ar eu cyfer. Mewn nifer o achosion, bydd y trefniadau newydd yn disodli’r hen rai, ac wrth gwrs ni chaniateir cyllid dwbl.

Rwy’n gwneud y cynnig hwn i rai sy’n derbyn grantiau ar hyn o bryd, a’r cyrff sy’n cyflogi, a hynny er mwyn cefnogi proses bontio drefnus ac i roi rhagor o sicrwydd i weithwyr presennol Cymunedau yn Gyntaf. Rwyf eisoes wedi egluro fy ymrwymiad i’r staff a’r gwirfoddolwyr niferus sy’n cefnogi’r rhaglen, ac mae’r ymrwymiad yma’n parhau. Rwy’n disgwyl y bydd y rhaglen yn y dyfodol yn cefnogi tua’r un nifer o staff â nawr, er y bydd newidiadau i lawer o’r swyddi, ac mewn rhai achosion, i gyflogwyr a lleoliad swyddi. Mae cyllideb Cymunedau yn Gyntaf yn ddigon i gefnogi’r gweithlu presenol.

Bydd nifer fach o ardaloedd presennol Cymunedau yn Gyntaf heb fod yn parhau o fewn y rhaglen newydd. Fel arfer, mae hyn oherwydd eu bod yn llai difreintiedig o’u cymharu, ac felly nid ydynt yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer eu cynnwys yn un o’r clystyrau newydd. Mae’r ardaloedd hyn yn gallu gwneud cais hyd at Fawrth 31 2013 am arian o’r rhaglen ar gyfer Strategaeth Ymadael, a chynigir hyn hefyd i ardaloedd eraill had ydynt yn cyflwyno ceisiadau erbyn 29 Mehefin.

Mae’n hanfodol i bob cais am arian Cymunedau yn Gyntaf ddangos sut y bydd y rhaglen yn mynd i’r afael â thlodi yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, gan weithio’n arbennig gyda’r unigolion, y teuluoedd a’r grwpiau mwyaf bregus. Caiff pob cais ei asesu’n fanwl, ac ni fyddaf yn cymeradwyo cyllid ond pan fyddaf yn hyderus y bydd Cymunedau yn Gyntaf yn rhoi gwerth am arian, ac yn sicrhau gwell canlyniadau o ran cael Cymunedau Ffyniannus, Cymunedau Dysgu a Chymunedau Iach.