Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 24 Mehefin 2018 gwnaeth Gweinidog yr Amgylchedd gyflwyno Datganiad Llafar i'r Aelodau yn eu hysbysu ynghylch ein cynlluniau i leihau llygredd aer yng Nghymru, gan gefnogi dyfodol mwy iach i'n cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a'n gwlad.

Hysbyswyd yr Aelodau fod 5 o leoliadau ar ein rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd a oedd yn torri'r terfyn cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2) - yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy; yr A483 ger Wrecsam; yr M4 rhwng cyffordd 41 a chyffordd 42, Port Talbot; yr M4 rhwng cyffordd 25 a chyffordd 26, Casnewydd; a'r A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd.

Gwnaeth ymchwiliadau manwl, gan gynnwys gwaith modelu yn defnyddio'r dull a nodir yn yr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WeITAG), gychwyn yn 2017 er mwyn pennu'r mesurau sy'n ofynnol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â Chyfarwyddeb Ansawdd Aer yr Amgylchedd (2008/50/EC) a Rheoliadau cyfatebol Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010. Y nod oedd cyflawni cydymffurfiaeth cyn gynted â phosibl, gan sicrhau bod pobl yn dod i gyn lleied â phosibl o gysylltiad â llygredd aer a bod cydymffurfiaeth â'r terfyn yn debygol yn hytrach na'n bosibl.

Dangosodd yr ymchwiliadau cychwynnol y gallai terfynau cyflymder o 50 milltir yr awr sicrhau cydymffurfiaeth o fewn y cyfnod byrraf posibl gwnaethom gymryd camau ar unwaith, gan eu cyflwyno yn y 5 lleoliad ym mis Mehefin 2018 er mwyn gwella iechyd y cyhoedd. Gwnaeth adroddiad terfynol yr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru gadarnhau'r casgliadau cychwynnol a chafodd terfynau cyflymder o 50 milltir yr awr eu pennu fel y mesurau a fyddai'n fwyaf tebygol o sicrhau cydymffurfiaeth o fewn y cyfnod byrraf posibl o amser yng Nghynllun Atodol Llywodraeth Cymru i gyhoeddiad 'UK Air Quality for Tackling Roadside Nitrogen Dioxide Concentrations' a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018.

https://gweddill.gov.wales/docs/desh/policy/181129-final-supplemental-air-quality-plan-cy.pdf

Rydym bellach wedi cyhoeddi ar ein gwefan adroddiad interim sy'n cynnwys canlyniadau'r 12 mis o waith monitro lefelau NO2 wrth ymyl y ffordd ar ôl cyflwyno'r terfynau cyflymder. 

 

https://llyw.cymru/data-interim-ar-grynodiadau-o-no2-ar-gyfer-traffyrdd-chefnffyrdd

 

Mae'r data sydd wedi'u casglu hyd yma wedi dangos bod lefelau NO2 wedi lleihau yn y 5 lleoliad. Mae ansawdd aer yn parhau'n fater cymhleth, fodd bynnag, ac mae'n cymryd cryn amser i bennu achosion ac effeithiau. Mae hi'n rhy gynnar i gyhoeddi a chadarnhau unrhyw gasgliadau cadarn ynghylch effaith y terfynau cyflymder o 50 milltir yr awr ar y terfynau NO2. Bydd angen casglu rhagor o ddata wrth ymyl y ffordd cyn y gall y tueddiad hwn o ran gwell ansawdd aer gael ei gadarnhau. Bydd adroddiad arall yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2020.

Rwy'n ymwybodol fod cydymffurfiaeth â therfynau cyflymder wedi bod yn broblem dros y 12 mis diwethaf ac o'r herwydd mae camerâu cyflymder cyfartalog wedi cael eu gosod mewn pedwar o'r lleoliadau er mwyn monitro cyflymder y traffig. Mae camerâu eisoes yn bodoli ar yr M4 yng Nghasnewydd.  

Mae'r ffaith bod y gwaith monitro diweddaraf wrth ochr y ffordd yn dangos lleihad mewn lefelau NO2 yn newyddion da ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau o safbwynt iechyd y cyhoedd. Yn unol â'r cynllun atodol, byddwn yn parhau i anelu at gyflawni ein nod o sicrhau cydymffurfiaeth â lefelau ansawdd aer, gan sicrhau bod pobl yn dod i gyn lleied â phosibl o gysylltiad â llygredd aer  a bod cydymffurfiaeth â'r terfyn yn debygol yn hytrach na'n bosibl.   Mae hyn yn cynnwys parhau i ddatblygu ac ymgysylltu â rhanddeiliad ar y  mesurau eraill, sef y Mesurau Rhagofalus a Ddargedwir.