Mick Antoniw, Y Cwnsler Cyffredinol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru, y DU a thu hwnt, fe welwyd ymosodiadau cynyddol ar uniondeb ac annibyniaeth y farnwriaeth ac ar egwyddorion sylfaenol rheolaeth y gyfraith. Mae'r egwyddorion hynny'n rhan annatod o systemau cyfreithiol ledled Ewrop ac yn rhyngwladol, ac wedi'u mabwysiadu gan y Cenhedloedd Unedig. Daeth yr annibyniaeth a'r egwyddorion hyn yn rhan annatod o'n system gyfreithiol ni drwy Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005. Cyfeiriwyd at ein llysoedd, ein barnwyr a'n system farnwrol gan ddefnyddio termau fel "barnwyr gwael", "llys cangarŵ", "barnwyr anetholedig" a "gelynion y bobl" mewn papurau newydd, ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn sylwebaeth gyhoeddus. Gyda'i gilydd, mae'r rhain wedi tanseilio egwyddorion sylfaenol rheolaeth y gyfraith sy’n cynnal ein system ddemocrataidd o lywodraethu a gweinyddu cyfiawnder.

Yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys ynghylch cychwyn Erthygl 50, fe gafodd yr Arglwydd Ganghellor ei feirniadu yn gwbl gywir am fethu ag amddiffyn annibyniaeth y farnwriaeth rhag collfarnu gan rannau penodol o'r cyfryngau, gwleidyddion ac eraill yr oedd eu hymddygiad yn dangos diffyg parch at reolaeth y gyfraith. Roeddwn i, ynghyd ag aelodau eraill o bob cwr o'r sbectrwm gwleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn barod i ymuno yn y feirniadaeth honno. Fel Swyddog y Gyfraith yng Nghymru, byddaf yn sicrhau bod uniondeb ein system farnwrol, sy’n datblygu’n gyson, yn cael ei barchu.

Ers 1999 rydym wedi cael cyfrifoldeb dros nifer o dribiwnlysoedd a hefyd wedi sefydlu rhai newydd ein hunain. Mae Tribiwnlysoedd Cymru, fel y'u diffinnir yn Neddf Cymru 2017, yn cynnwys Panel Dyfarnu Cymru, Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru, Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru, Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru a Thribiwnlys y Gymraeg.

Mae'r cyfrifoldeb dros farnwriaeth Tribiwnlysoedd Cymru'n cael ei arfer drwy gyfuniad o swyddogaethau Gweinidogion Cymru a swyddogaethau'r Arglwydd Ganghellor. Ers 2015, lle bo gan Weinidogion Cymru gyfrifoldeb swyddogol dros benodiadau, mae'r broses o recriwtio aelodau tribiwnlys - yn aelodau cyfreithiol neu aelodau lleyg - wedi'i chynnal gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol, sy'n gorff annibynnol. Er bod yr aelodau'n cael eu penodi'n ffurfiol gan Weinidogion Cymru, maent yn cael eu hargymell gan y Comisiwn. Mae hyn yn adlewyrchu'r trefniadau sy'n bodoli i'r Comisiwn gynnal proses recriwtio barnwriaeth llysoedd a thribiwnlysoedd ar ran yr Arglwydd Ganghellor. Bydd yr aelodau'n gwybod bod proses recriwtio benodol yn ei lle ar gyfer Tribiwnlys y Gymraeg, lle mae'n ofynnol drwy reoliadau i Weinidogion Cymru ystyried yr angen i gynnal egwyddorion annibyniaeth y Tribiwnlys a rheolaeth y gyfraith wrth benodi'r aelodau.

Cadarnhaodd Arweinydd y Tŷ ar 7 Mawrth, wrth ymateb i gwestiwn am Banel Dyfarnu Cymru, nad oes gan Weinidogion Cymru unrhyw ran ym mhenderfyniadau'r Tribiwnlysoedd, a wneir gan aelodau’r tribiwnlys ar sail y dystiolaeth ger eu bron. Mae mesurau diogelu eraill yn eu lle i gynnal annibyniaeth farnwrol Tribiwnlysoedd Cymru, gan gynnwys mynediad at arbenigedd y Swyddfa Ymchwilio i Ymddygiad Barnwrol. Ceir darpariaeth yn Neddf Cymru 2017 ar gyfer Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i gryfhau arweiniad ac annibyniaeth y farnwriaeth ymhellach.

Fel Llywodraeth, rydym yn gwerthfawrogi ac yn parchu gwaith hanfodol barnwriaeth Tribiwnlysoedd Cymru. Rydym yn cydnabod eu huniondeb a'u hymrwymiad at wasanaeth cyhoeddus, ynghyd â'r rhan bwysig iawn sydd ganddynt i'w chwarae yng Nghymru. Wrth i system farnwrol Cymru barhau i ddatblygu a thyfu, ac i ni symud maes o law tuag at awdurdodaeth gyfreithiol fwy neilltuol, bydd angen diwygio gweinyddiaeth cyfiawnder ymhellach. Bydd yn brawf cynyddol o aeddfedrwydd y Cynulliad hwn fel deddfwrfa a Senedd ei fod yn cydnabod ac yn deall pwysigrwydd annibyniaeth sefydliadau barnwrol a'r egwyddorion sy'n sail iddynt. Mae'r un mor bwysig i'n sefydliadau barnwrol wybod eu bod yn ennyn hyder y ddeddfwrfa a phobl Cymru, a'u bod yn cael eu hamddiffyn rhag ymyrraeth wleidyddol a beirniadaeth ac ymosodiadau di-alw-amdanynt a di-sail wrth arfer eu dyletswyddau cyhoeddus.