Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Yn dilyn y tywydd gwael iawn a gafwyd ledled Cymru ers dydd Iau diwethaf, rwyf am ddiolch i staff ar draws y sector trafnidiaeth cyfan, sydd wedi gweithio'n ddi-flino drwy'r penwythnos i helpu'r cyhoedd oedd yn teithio ac i ail-agor ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a'n ffyrdd. Mae diwydrwydd a gallu y bobl hynny sy'n gweithio i'n gwasanaethau hanfodol bob amser yn creu argraff arnaf, ac mae'r ychydig ddyddiau diwethaf wedi dangos proffesiynoldeb ac ymrwymiad y bobl hyn sy'n gweithio ym maes trafnidiaeth yng Nghymru.
Roedd nifer o leoliadau ble y bu'n amhosibl teithio ar y rhwydwaith, yn anffodus, ac roedd yn rhaid i'r ffyrdd gau. Dyma'r peth olaf y mae rhywun am ei wneud, ac nid oedd unrhyw benderfyniad i gau ffyrdd yn cael ei wneud yn ysgafn. Er i'n hymdrechion i ail-agor ffyrdd ac i achub pobl gael eu rhwystro i raddau mewn rhai lleoliadau oherwydd y cerbydau oedd wedi eu gadael ar ffyrdd, roedd pob un o'n rhwydweithiau ffyrdd wedi'u hail-agor erbyn dydd Sul. Mae gwasanaethau bysiau ledled Cymru bellach yn ôl fel arfer, gyda rhai eithriadau lleol. Mae ein timau hefyd wedi rhoi cymorth i awdurdodau lleol.
Er mwyn rhoi'r darlun llawn i raddfa ein hymateb, er y bu pobl yn gaeth yn eu cerbydau am hyd at 18 awr mewn rhannau eraill o Brydain, ni chafodd neb eu dal yn gaeth yn eu cerbydau ar ein rhwydwaith ni am gyfnodau sy'n cymharu â'r sefyllfa. Er bod nifer o ddigwyddiadau bychain ar ein rhwydwaith ffyrdd, diolch byth ni fu inni weld unrhyw ddamweiniau angheuol neu ddifrifol o ganlyniad i'r tywydd eithafol.
Yr wythnos ddiwethaf dywedais wrth yr aelodau am yr heriau niferus oedd yn cael eu hwynebu gan y rheilffyrdd yng Nghymru. Roedd dau fater dan sylw: Yn gyntaf, y tywydd heriol iawn, gyda'r cyfuniad o eira trwm a chyfnodau maith o dymheredd isel, oedd yn arwain at darfu sylweddol ar y gwasanaethau o ddydd Iau ymalen. Yn ail, roedd y broblem o'r difrod i olwynion y trenau oedd yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau dros bellter maith yng Nghymru. Mae'r tywydd gwael wedi cael effaith fawr hefyd ar y ffyrdd, gan gynnwys gwasanaethau bysiau ledled Cymru.
Ers imi ddod yn ymwybodol o broblem yr olwynion ar yr 28ain o Chwefror, rwyf wedi derbyn y newyddion diweddaraf yn rheolaidd gan Drenau Arriva Cymru a Network Rail Cymru. Roeddwn yn ddiolchgar iddynt ac i'w staff sydd wedi gweithio'n ddi-flino mewn tywydd gwael eithriadol i sicrhau bod y gwasanaethau yn dychwelyd i'w hamserlen arferol cyn gynted â phoisbl, ac i roi'r newyddion diweddaraf i'r cyhoedd.
Ar yr 28ain o Chwefror, bu i archwiliadau diogelwch cyn dechrau'r gwasanaeth ddatgelu difrod i'r olwynion ar nifer o'n trenau pellter maith sy'n rhedeg o Orllewin Cymru i Manceinion, o Gaerdydd i Gaergybi ac o Gaergybi i Birmingham. Nid oedd y difrod i'w weld mewn unrhyw fan arall ar reilffyrdd Prydain.
Er diogelwch, cafodd y cerbydau yr effeithiwyd arnynt eu tynnu o'r gwasanaeth ar unwaith, sefydlwyd Trefn Reoli Arian gan Drenau Arriva Cymru a Network Rail, cafodd y gwasanaethau arferol eu cwtogi, a defnyddiwyd trenau profi i weld achos y difrod i'r olwynion ar hyd y rheilffyrdd ble y digwyddodd y difrod o bosibl - yn bennaf rhwng Caer, yr Amwythig a Chaerdydd. Roedd y lleoliadau posibl hyn yn cynnwys pwyntiau newid traciau, croesfannau, cyfleusterau depo a seilwaith eraill. Roedd Llywodraeth Cymru yn derbyn y newyddion diweddaraf bob hanner awr. Rwyf wedi rhoi y newyddion diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y cyfnod.
Ar yr un pryd, roedd y rhagolygon o dywydd eithafol a'r rhybuddion tywydd yn golygu bod yn rhaid dod â rhan fwyaf o'r gwasanaethau yn Ne Cymru i ben, a'r rhai yn Nyffryn Conwy, Gorllewin Cymru ac mewn mannau eraill, i ddechrau, ar y 1af a'r 2il o Fawrth, gyda llai o wasanaethau pellter maith ar y prif reilffyrdd. Cafwyd gwybodaeth gynhwysfawr i'r cyhoedd gan y diwydiant rheilffyrdd ar y materion hyn wrth iddynt godi, ar eu gwefannau, y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddatganiadau rheolaidd yn y wasg. Y tu allan i Gymru, cafodd y tywydd effaith fawr ar y gwasanaethau rheilffordd.
Wedi i'r tywydd wella, ac i'r gwaith mawr o glirio'r traciau a phrofi'r rheilffyrdd gael ei gwblhau, cafwyd gwelliant graddol yn y gwasanaethau ar y 3ydd a'r 4ydd o Fawrth, a daethpwyd o hyd i'r seilwaith oedd wedi achosi'r difrod i'r olwyn yng Nghyffordd Gorllewin Maendy, ger Casnewydd. Diolch i ymdrechion staff Trenau Arriva Cymru a Network Rail, mae trenau pellter maith yn rhedeg fel arfer o'r 5ed o Fawrth, gydag ychydig o drenau yn rhedeg ar deithiau byrrach na'r arfer o ganlyniad i'r difrod i'r olwynion. Cafodd gwasanaethau lleol ar reilffyrdd Calon Cymru a Dyffryn Conwy ei effeithio ar y 5ed o Fawrth oherwydd ôl-effaith y tywydd mawr, felly parhaodd bysiau i gael eu defnyddio ar hyd y llwybrau hynny, er ddylai rheilffordd Dyffryn Conwy dychwelyd i'w hamserlen arferol ar y 6ed o Fawrth.
Rwyf wedi siarad unwaith eto â Threnau Arriva Cymru a Network Rail i ddeall y problemau sy'n weddill, ac i ddiolch iddynt am waith caled eu timau yn adfer y gwasanaethau yr effeithiwyd arnynt mor gyflym, ac am roi'r newyddion diweddaraf i'r cyhoedd. Mae'r teithwyr a gafodd broblemau wrth deithio yn cael ei annog i wneud ymholiadau i Drenau Arriva Cymru os ydynt eisiau wneud cais i hawlio iawndal. Mae 24 o'r 27 o drenau dosbarth 175 wedi gweld difrod i'w holwynion, yn ogystal ag olwynion cerbydau trên Gerallt Gymro ac o leiaf 7 o'r 24 o drenau dosbarth 158 sy'n cael eu defnyddio ar gyfer teithiau byrrach. Er y gallai'r difrod gymryd sawl mis i'w drwsio, rwyf wedi derbyn sicrwydd nad oes unrhyw broblemau diogelwch o ran parhau i ddefnyddio'r trenau yn y cyfamser. Mae'n bosibl y byddwn yn gweld rhai trenau byrrach am gyfnod, ond nid ydym yn rhagweld y bydd unrhyw wasanaethau yn cael eu canslo, os nad oes amgylchiadau eraill yn codi.
Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am unrhyw ddatblygiadau pellach.