Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Fe fyddwch yn ymwybodol o'r anawsterau a gododd yr wythnos ddiwethaf ynghylch recriwtio Meddygon Iau. Roedd camgymeriad ym mhroses recriwtio Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer arbenigeddau meddygaeth uwch lefel ST3 (Hyfforddeion Arbenigol), sy'n golygu bod ymgeiswyr ar draws y DU wedi'u graddio'n anghywir gyda rhai o bosib yn cael cynnig lleoliadau na ddylent ac eraill wedi colli cyfleoedd.
Ers nodi'r camgymeriad hwn, mae Deoniaeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sefydliadau sy'n gyfrifol am hyfforddiant meddygol ôl-raddedig ym mhedair gwlad y DU er mwyn sicrhau ein bod yn deall yn glir beth yw'r datblygiadau a'r goblygiadau i unigolion.
Mae fy swyddogion yn parhau i gadw mewn cysylltiad rheolaidd â Deoniaeth Cymru er mwyn gweld beth yn union yw'r goblygiadau i Gymru. Mae'r Ddeoniaeth wedi cadarnhau mai 43 o unigolion oedd wedi derbyn cynnig am le hyfforddiant yng Nghymru, felly mae o leiaf cymaint â hynny wedi'u heffeithio. I nifer ohonynt, efallai mai ychydig, os o gwbl, o newid fydd yng nghanlyniad cyffredinol y broses recriwtio, ond mae'n bosib bod goblygiadau ehangach i unigolion sydd, er enghraifft, â'u partneriaid wedi derbyn swyddi a/neu sydd wedi gwneud trefniadau eraill ar sail canlyniad y broses recriwtio.
Mae'n bwysig i'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan y camgymeriad gael digon o wybodaeth am y camau sy'n cael eu cymryd i roi sylw i'r sefyllfa, gwybod sut i fynegi pryderon am eu hamgylchiadau unigol a chael ymateb amserol er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau doeth.
Mae Deoniaeth Cymru wedi cadarnhau bod gwybodaeth wedi'i darparu i bob un o'r hyfforddeion sydd wedi'u heffeithio a phob un o'r Penaethiaid Ysgol a Chyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddi. Ceir rhagor o wybodaeth a chopi o'r datganiad drwy'r ddolen hon: http://www.st3recruitment.org.uk/news/major-issue-with-st3-2018-r1-process-offers-to-be-re-run
Cynhaliwyd cyfres o drafodaethau gyda rhanddeiliaid ac ar draws y DU yr wythnos hon i ganfod ac ystyried atebion posib i'r sefyllfa.
Rhyddhawyd cyfres o Gwestiynau Cyffredin y gellir eu gweld drwy'r ddolen hon: http://www.st3recruitment.org.uk/news/st3-re-offers-faqs-published
Mae fy swyddogion yn monitro'r sefyllfa wrth ochr Deoniaeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn deall yn iawn beth yw'r datblygiadau a'r goblygiadau i unigolion. Rhyddhawyd y gyfres gyntaf o gynigion newydd ar 10 Mai, a bydd rhagor yn cael eu rhyddhau yr wythnos nesaf. Bydd gan yr hyfforddeion tan 14 Mai i ymateb.
Ar gyfer yr hyfforddeion sy'n derbyn cynnig llai ffafriol na'r gwreiddiol, ceir ymrwymiad i weithio gyda'r unigolion hynny i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth briodol. Bydd Deoniaeth Cymru yn gweithio gyda'r arbenigeddau lle mai dyma'r achos i weld os oes modd iddyn nhw gynnal a chadw'r hyfforddeion hynny yng Nghymru, os yw'r capasiti hyfforddi yn caniatáu hynny.
Rydw i wedi gofyn i'm swyddogion weithio gyda Deoniaeth Cymru wrth i'r sefyllfa ddatblygu a nodi unrhyw gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu'r Ddeoniaeth i roi sylw i unrhyw faterion allai godi.
Rhoddwyd gwybodaeth i Dimau'r Gweithlu ar draws Byrddau Iechyd Cymru i'w hysbysu am yr oedi a'r amserlen ddiwygiedig. Gan ystyried yr amgylchiadau, mae hyn yn anochel ac y tu hwnt i reolaeth Deoniaeth Cymru.
Dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf mae Deoniaeth Cymru wedi bod yn rhoi blaenoriaeth i ymholiadau hyfforddeion a chefnogi'r ymdrechion i ddatrys y mater hwn wrth ochr cydweithwyr ar draws y DU.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.rcplondon.ac.uk/