Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae amseriad hwyr Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU yn cyflwyno heriau sylweddol i ni ar gyfer paratoi a chyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2016-17.

Er gwaethaf ein galwadau am eglurder cyn gynted â phosib, ni fyddwn yn gwybod beth fydd ein Cyllideb ar gyfer 2016-17 nes 25 Tachwedd. Rydym yn wynebu ansicrwydd na welwyd ei debyg o'r blaen. Nid oes manylion wedi'u darparu eto ynghylch cyfeiriad cynlluniau gwariant Llywodraeth y DU, na'r cyfnod fydd yn cael ei gwmpasu dan eu cynlluniau. O ganlyniad mae'n anodd eithriadol i ni gynllunio'n Cyllideb ein hunain.

Drwy gydol y cyfnod hir hwn o gyni, rydym wedi gwneud ein gorau i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag toriadau - gan gynnwys pan fo Llywodraeth y DU yn newid ei chynlluniau ar fyr rybudd. Elfen hanfodol o bob cylch cyllideb yw darparu sicrwydd cynnar ynghylch cynlluniau gwario yn y dyfodol i'n partneriaid, gan gynnwys cyrff iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector, yn ogystal â rhoi digon o amser i'r Cynulliad graffu mewn ffordd ystyrlon ar ein cynlluniau gwario. Mae'r dasg hon bron yn amhosibl yn sgil yr amserlen a orfodwyd arnom gan Lywodraeth y DU.

Yng ngoleuni'r cyfyngiadau hyn, na welwyd eu tebyg o'r blaen, rwy'n bwriadu cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2016-17 ar 8 Rhagfyr, a'r Gyllideb Derfynol ar 1 Mawrth. Bydd cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft o fewn pythefnos i glywed beth yw ein setliad yn gryn dipyn o her, ond dyma'r unig ffordd i sicrhau bod y Gyllideb Derfynol yn cael ei chynnig cyn y dyddiad y mae'n rhaid i awdurdodau lleol gadarnhau eu cynlluniau gwariant.  

Yng ngoleuni'r diffyg eglurder a ddarparwyd ar gynlluniau'r DU ar gyfer y blynyddoedd nesaf, ynghyd â'r amserlenni heriol rydym yn eu hwynebu, fy mwriad yw cyhoeddi cynlluniau ar gyfer 2016-17 yn unig.