Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Drwy gydol y pandemig, mae patrwm clir a chyson yn lledaeniad y coronafeirws ar hyd coridorau teithio wedi dod i’r amlwg. Mae hyn yn wir o fewn Cymru; ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r feirws yn symud gyda phobl, ac mae pobl yn dod â’r feirws i ardaloedd newydd wrth iddynt symud o gwmpas.

Mae gwaith dadansoddi ar y gwahanol amrywiolynnau o’r feirws yn y DU wedi dangos bod y mwyafrif wedi’u nodi gyntaf yn Lloegr. Yn aml, roedd achosion yng Nghymru yn dod i’r amlwg rai diwrnodau’n ddiweddarach.

Lledaenodd amrywiolyn Caint – sef y ffurf fwyaf cyffredin o’r feirws yn y DU – yn gyflym iawn ar draws y DU gyfan, er bod cyfyngiadau sylweddol mewn grym, gan gynnwys cyfyngiadau teithio, yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr.

Mae amrywiolyn newydd wedi’i nodi ac mae’n ymddangos ei fod hyd yn oed yn fwy trosglwyddadwy nag amrywiolyn Caint. Mae’n debygol mai’r amrywiolyn hwn, a nodwyd gyntaf yn India, fydd yr amrywiolyn mwyaf cyffredin yn y DU, fel y digwyddodd gydag amrywiolyn Caint. Mae achosion wedi’u nodi mewn llawer o ardaloedd ar draws y DU – yn enwedig yn Bolton, Blackburn, Kirklees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside. Rydym hefyd wedi cofnodi 57 o achosion yng Nghymru o amrywiolyn India, sydd wedi’i ddynodi’n amrywiolyn sy’n peri pryder.

Mae yna lawer iawn nad ydym yn ei wybod o hyd am yr amrywiolyn newydd hwn. Nid ydym yn gwybod digon i ddweud a allai achosi salwch difrifol neu farwolaeth i fwy o bobl. Mae’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu bod brechlynnau’n effeithiol o hyd, yn enwedig o ran diogelu rhag clefyd difrifol.

Gyda phob wythnos sy’n mynd heibio, mae ein rhaglen frechu ragorol yn parhau i ddiogelu mwy o bobl. Byddwn i’n annog pawb sy’n cael cynnig y brechlyn i dderbyn y gwahoddiad.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn gweld unrhyw gynnydd mewn derbyniadau i ysbytai sy’n gysylltiedig ag amrywiolyn India yng Nghymru. Rydym yn monitro’r sefyllfa yn Lloegr yn agos, yn enwedig yr ardaloedd hynny lle mae niferoedd uchel o achosion o’r amrywiolyn sy’n peri pryder. Bydd hyn yn rhoi rhybudd cynnar inni.

Mae canllawiau Llywodraeth y DU ar gyfer pobl sy’n byw yn yr wyth ardal lle mae amrywiolyn India sy’n peri pryder yn cylchredeg yn cynghori yn erbyn teithio os nad yw’n hanfodol ac yn eu cynghori i gael eu profi’n rheolaidd.

Nid ydym yn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn y DU ar hyn o bryd, ond ein cyngor clir yw na ddylai pobl deithio i ardaloedd lle mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn uchel os oes modd osgoi hynny. Mae hyn yn cynnwys Bolton, Blackburn, Kirklees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside lle mae amrywiolyn India sy’n peri pryder yn cylchredeg. Hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu, mae’r risg o ddal COVID-19 yn uwch yn yr ardaloedd hynny, felly dylech osgoi teithio iddynt os oes modd.

Wrth inni nesáu at Ŵyl Banc y Gwanwyn a gwyliau hanner tymor yr ysgolion, bydd ein busnesau twristiaeth yn edrych ymlaen at wythnos brysur a dechrau tymor yr haf.

Byddem yn annog unrhyw un sy’n bwriadu dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws i brofi eu hunain ddwywaith yr wythnos, gan ddefnyddio’r profion llif unffordd am ddim, cyn iddynt deithio. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau’r coronafeirws ddylai deithio.

Dylai pawb sy’n dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda nhw i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau. Mae hyn yn gam ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru. Mae pecynnau profion llif unffordd hefyd ar gael yng Nghymru o ganolfannau profi lleol.

Rydym wedi bod yn glir bob amser am y risg o drydedd don, wrth i amrywiolynnau newydd sy’n peri pryder ddod yn fwy amlwg. Byddwn yn cymryd pwyll wrth lacio’r cyfyngiadau, ac yn parhau i ddilyn y cyngor gwyddonol diweddaraf sydd ar gael. Byddwn yn addasu ein rhaglen Profi Olrhain Diogelu a’n rhaglen frechu hynod o effeithiol pan fo angen. Rydym yn cadw capasiti ar gyfer ymchwydd dros dro yn ein Gwasanaeth Iechyd rhag ofn y bydd ei angen. Rydym hefyd yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid lleol i reoli a chyfyngu ar frigiadau o achosion lleol.

Ein rhaglen frechu lwyddiannus yw’n llwybr gorau allan o’r pandemig hwn. Rwy’n annog pawb i barhau i fod yr un mor ofalus ac i fabwysiadu’r un ymddygiadau diogelu ag rydym wedi’u gwneud drwy gydol y pandemig, wrth inni barhau i frechu gweddill y boblogaeth sy’n gymwys yng Nghymru.