Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Bwriad y datganiad hwn yw rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau am safbwynt presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau o ran gweithredu’r polisi amodoldeb sgiliau yng Nghymru.
Ym mis Chwefror 2011, ysgrifennais at Chris Grayling, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gyflogaeth ynghylch effaith bosibl polisi amodoldeb sgiliau yr Adran Gwaith a Phensiynau o ran y ddarpariaeth sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Yn yr ohebiaeth ddilynol dros gyfnod estynedig, yn fwyaf diweddar ym mis Ebrill eleni, rwyf wedi parhau i fynegi pryderon ynghylch polisi yr Adran Gwaith a Phensiynau o geisio gorfodi pobl ddi-waith i ddysgu, trwy fygwth cosbau o ran eu budd-dal. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n amheus o’r dull hwn o weithredu, ac rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU roi gwerthusiad o’i gweithgarwch yn Lloegr cyn penderfynu a ddylid cefnogi gweithredu’r polisi yng Nghymru.
Er gwaethaf y ffaith inni ddatgan ein barn yn glir, cadarnhaodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ei bwriad i fwrw ymlaen â hyn, ac mae wedi ceisio gwneud trefniadau i’w gwneud yn orfodol i gwsmeriaid yr ystyrir bod angen iddynt fynd i’r afael â bwlch yn eu sgiliau fynychu darpariaeth sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Roeddwn yn benderfynol yn fy ymrwymiad i wrthwynebu’r ffaith bod yr Adran, i bob golwg, yn diystyru’n safbwynt. Rwy’n falch o gadarnhau, wedi i’r Adran Gwaith a Phensiynau wrthdroi ei phenderfyniad yn ddisymwth, ei bod bellach wedi cadarnhau y bydd yn parchu safbwynt Llywodraeth Cymru ein bod am barhau i ddarparu ein rhaglenni dysgu a sgiliau ar sail wirfoddol, tan y bydd yn bosibl iddi ddarparu gwerthusiad o’r gweithgarwch, er mwyn inni ystyried ein safbwynt unwaith yn rhagor. Ni fydd felly ond yn mynnu amodoldeb sgiliau drwy raglenni y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau ei hun yn eu hariannu.
Er ei bod yn bosibl i’r Adran Gwaith a Phensiynau barhau i fynd ar drywydd y polisi amodoldeb sgiliau ar gyfer y ddarpariaeth sydd wedi’i hariannu ganddi, rwy’n credu bod y ffaith iddi newid ei meddwl yn ddiweddar ynghylch y trefniadau yng Nghymru yn dangos nid yn unig barch i’n safbwynt, ond hefyd yn cydnabod na fydd polisïau Llywodraeth y DU yn cyd-fynd bob tro â pholisïau Llywodraeth Cymru.