John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Cyhoeddwyd Rhestrau Nwyon Tŷ Gwydr ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban, ac adroddiad Gogledd Iwerddon (Saesneg yn unig), sy'n cynnwys data ar gyfer 2010, ar 17 Gorffennaf 2012.
Caiff y chwe nwy tŷ gwydr eu mesur fel a ganlyn:
- Caiff allyriadau o garbon deuocsid, methan ac ocsid nitraidd eu mesur yn unol â'r flwyddyn sylfaen sef 1990,
- Caiff allyriadau o “nwyon f” sef: hydrofflworocarbonau, perfflworocarbonau a sylffwr hecsafflworid eu mesur yn unol â'r flwyddyn sylfaen sef 1995.
Y pwyntiau allweddol sy'n berthnasol i Gymru ynghylch 2010 yw:
- Yn gyffredinol, ers y flwyddyn sylfaen (1990/1995), mae'r allyriadau o'r chwe nwy tŷ gwydr wedi lleihau. Yn 2010 amcangyfrifwyd bod yr allyriadau carbon deuocsid (CO2) yn cyfateb i 46.6 miliwn tunnell, sy'n lleihad o 15 y cant o'i gymharu ag allyriadau yn y flwyddyn sylfaen.
- Bu cynnydd o tua 8 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2010 o'i gymharu â 2009. Roedd hyn yn sgil cynnydd o fewn y sectorau preswyl, busnes a diwydiannol, oherwydd y gaeafau oer o bosibl, ar ddechrau ac ar ddiwedd 2010, ynghyd â chynnydd yn yr haearn a'r dur a gynhyrchwyd.
- Y sector ynni yw prif ffynhonnell yr allyriadau o hyd, gan gynhyrchu tua 36 y cant o'r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr. Busnesau yw'r ail brif ffynhonnell o allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan gynhyrchu 21 y cant o gyfanswm yr allyriadau yn 2010.
- Mae gan Gymru gyfran uwch o allyriadau masnach sy'n dod o dan gwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau'r UE na gweddill y DU. Adwaenir y sector hwn fel y sector 'masnachu'. Adlewyrcha hyn lefel uchel y diwydiannau trwm yng Nghymru a'r ffaith y cynhyrchir cymaint o drydan (ee allyriadau o orsafoedd pŵer, purfeydd a gweithfeydd haearn a dur). O'r herwydd, deilliodd 48.4 y cant o gyfanswm yr allyriadau CO2 yng Nghymru o’r sector nad yw’n masnachu yn 2010.
- Wrth ystyried allyriadau gan ddefnyddwyr yn hytrach na chynhyrchwyr ynni, er enghraifft, caiff allyriadau o orsafoedd pŵer eu hailneilltuo i ddefnyddwyr trydan. Amcangyfrifir bod allyriadau Cymru wedi lleihau dros 22 y cant ers y flwyddyn sylfaen. Nid yw'r allyriadau hyn yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig ag allforio ynni.
- Mae gan Gymru gyfran lai o allyriadau defnyddwyr y DU o'i gymharu â'r amcangyfrifon yn ôl ffynhonnell, ac mae wedi llwyddo i gynhyrchu llai o allyriadau ers y flwyddyn sylfaen na'r hyn a awgrymir yn y rhestrau yn ôl ffynhonnell.
Ymysg rhai o'r ffynonellau mwyaf o allyriadau yng Nghymru yn 2010 roedd cynhyrchu trydan (25% o gyfanswm y nwyon tŷ gwydr), cludiant ffordd (12% o gyfanswm y nwyon tŷ gwydr), hylosgi preswyl ar gyfer gwresogi a choginio (10% o gyfanswm y nwyon tŷ gwydr), a hylosgi diwydiannol ar gyfer gwres a thrydan o fewn y sector busnes (7% o gyfanswm y nwyon tŷ gwydr).
Roedd allyriadau o osodiadau sy'n rhan o Gynllun Masnachu Allyriadau'r UE (ETS) yn cyfrif am 51.6% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru yn 2010; y prif gyfranwyr at yr allyriadau masnachu hyn oedd y sector Cyflenwi Ynni (y mae 92% o gyfanswm yr allyriadau o fewn Cynllun Masnachu Allyriadau'r UE, gan gynnwys pob gorsaf bŵer) a'r sector busnes (y mae 71% o gyfanswm allyriadau'r sector o fewn Cynllun Masnachu Allyriadau'r UE, gan gynnwys yr holl allyriadau o odynau sment a 83% o gyfanswm yr allyriadau sy'n deillio o gynhyrchu haearn a dur).
Carbon deuocsid (CO2) oedd y nwy mwyaf cyffredin a ddeilliodd o'r holl gategorïau Cyfathrebu Cenedlaethol (NC) ac eithrio Amaethyddiaeth, lle y mae methan (CH4) o dda byw ac ocsid nitraidd (N2O) o briddoedd, a Gwastraff, lle y mae methan o dirlenwi ymysg y nwyon pwysicaf
Yn ogystal â chyflwyno allyriadau sy'n seiliedig ar allyriadau uniongyrchol o brosesau neu hylosgi tanwyddau yng Nghymru, gellir neilltuo'r allyriadau o'r sector Cyflenwi Ynni i ddefnyddwyr yr ynni er mwyn dangos cyfran yr holl allyriadau y gellir eu priodoli i ddefnyddwyr ynni yn yr economi. Mae allyriadau yn ôl y defnyddwyr yn dangos crynodeb o'r allyriadau yn ôl y defnydd ohonynt, ac mae'r allyriadau yn ôl y rhestrau fesul ffynhonnell yn dangos crynodeb o'r allyriadau yn ôl y dull cynhyrchu.
Mae'r data ynghylch defnyddwyr yn neilltuo allyriadau sy'n deillio o gyflenwi ynni (trydan, tanwyddau petroliwm wedi'u prosesu, cynhyrchu nwy a thanwydd solet) i ddefnyddwyr (preswyl, cludiant, amaethyddiaeth, y cyhoedd a busnesau) yr ynni a ddarperir.
Y prif wahaniaeth o safbwynt y defnyddiwr yw'r cynnydd sylweddol mewn allyriadau y gellir eu priodoli i'r sectorau busnes, preswyl, cludiant ac i'r sector cyhoeddus. Mae'r data o'r rhestrau ynghylch defnyddwyr yn dangos, ar sail y defnydd o ynni, pwy oedd yn gyfrifol am gyfanswm allyriadau Cymru yn 2010 : deilliodd 37% o'r sector busnes, deilliodd 19% o'r sector preswyl a deilliodd 16% o'r sector cludiant. Mae Cymru yn allforiwr net trydan a arweiniodd at allyriadau ychydig yn llai yng Nghymru (8% yn llai o gyfanswm y nwyon tŷ gwydr) gan ddefnyddwyr (43,372 kt CO2e) o'i gymharu ag amcangyfrifon yn ôl ffynhonnell (46,639 kt CO2e) ar gyfer 2010.
Ni fu newid yn yr allyriadau o'r sectorau Newid Defnydd Tir a Rheoli Gwastraff rhwng y rhestrau yn ôl ffynhonnell a'r rhestrau defnyddwyr gan nad oes unrhyw allyriadau o ddefnyddio ynni wedi'u priodoli i'r ffynonellau hyn.
Dengys ffigurau 2010 dueddiad cyffredinol am i lawr o ran allyriadau o'i gymharu â 1990. Mae'n amlwg fod sefyllfa fregus economi'r DU wedi bod yn ffactor sylweddol yn y lleihad sylweddol mewn allyriadau yn 2010, yn yr un modd ag ydoedd yn ffactor yn 2009.
Wrth edrych tua'r dyfodol, byddwn yn parhau i gynyddu ein hymdrechion i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru a byddwn yn ceisio sicrhau bod Cymru yn gwbl barod i reoli effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Mae ein Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd yn cadarnhau'r dulliau a'r polisïau ar gyfer cyflawni ein hymrwymiad i leihau allyriadau 3% bob blwyddyn o 2011 ymlaen mewn meysydd lle y mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli, yn unol â'r llinell sylfaen o allyriadau cyfartalog rhwng 2006 a 2010.
Amlinella'r Strategaeth ymrwymiad Llywodraeth Cymru i arwain wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac rydym eisoes yn cyflawni cynnydd da yn y maes hwn. Eto i gyd ni allwn ond gyflawni ein targedau os bydd pawb - pob lefel o'r llywodraeth, pobl, cymunedau a busnesau - yn chwarae eu rhan. Dyma pam rydym yn gweithio ar draws y llywodraeth, gyda'r sector cyhoeddus ehangach a chyda busnesau a chymunedau er mwyn gwireddu'r agenda hon. Y dull partneriaeth hwn fydd yn ein helpu i gyflawni'r targedau heriol sy'n ofynnol ar gyfer lleihau allyriadau.