John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Cyhoeddwyd adroddiad Rhestrau Nwyon Tŷ Gwydr Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gyda data ar gyfer 2009, ar 6 Medi 2011.
Caiff y ‘fasged’ o chwe nwy tŷ gwydr ei mesur fel a ganlyn:
- Caiff allyriadau carbon deuocsid, methan ac ocsid nitraidd eu mesur yn erbyn blwyddyn sylfaen 1990
- Caiff allyriadau ‘nwyon f’, sef hydrofflworocarbonau, perfflworocarbonau a sylffwr hecsafflworid eu mesur yn erbyn blwyddyn sylfaen 1995
Mae’r adroddiad yn dangos, fesul ffynhonnell, mai 7.6% oedd cyfran Cymru o gyfanswm net allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU a bod allyriadau yng Nghymru wedi gostwng 23.3% o’i gymharu â’r flwyddyn sylfaen (1990 ac 1995 yn achos nwyon f).
Roedd gostyngiad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2009 o’i gymharu â 2008, o 49.3(r)* i 42.6 MtCO2.
Dyma oedd y ffigurau penodol ar gyfer pob nwy tŷ gwydr rhwng 1990 (1995 yn achos nwyon f) a 2009:
- gostyngiad o 19.3% mewn allyriadau CO2 (Carbon Deuocsid);
- gostyngiad o 45.7% mewn allyriadau CH4 (Methan);
- gostyngiad o 28.2% mewn allyriadau N2O (Ocsid Nitraidd);
- cynnydd o 580.8% mewn allyriadau HFC (Hydrofflworocarbonau);
- gostyngiad o 79.5% mewn PFC (Perfflworocarbonau);
- gostyngiad o 50.4% mewn SF6 (Sylffwr Hecsafflworid).
Mae’r cynnydd sylweddol mewn allyriadau HFC yng Nghymru yn sgil eu defnyddio fwyfwy yn lle CFCs fel tanwydd oeri ac aerosol. Nid oes gweithgynhyrchu gydag HFC / HCFC yng Nghymru ac roedd HFCs yn gyfrifol am lai nag 1% o gyfanswm nwyon tŷ gwydr Cymru yn 2009.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys setiau data ‘defnyddwyr terfynol’ sy’n rhoi amcangyfrifon o allyriadau lle caiff ynni ei ddefnyddio, yn hytrach na lle caiff ei gynhyrchu.
Mae’r ffigurau’n nodi gostyngiad cyffredinol mewn allyriadau ar y cyfan. Mae’n amlwg bod dirywiad economaidd y DU yn ffactor blaenllaw yn y gostyngiad sylweddol mewn allyriadau yn 2009.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’n rhaid i ni barhau â’n gwaith i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, a chynyddu’r gwaith hwn. Mae’n Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd yn cadarnhau’n dull gweithredu a’n polisïau ar gyfer gwireddu’n hymrwymiad i dorri 3% ar allyriadau o 2011 ymlaen yn y meysydd datganoledig yn erbyn llinell sylfaen allyriadau ar gyfartaledd rhwng 2006 a 2010.
Mae’r Strategaeth yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i arwain gwaith ar fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac rydym eisoes yn gwneud cynnydd da yn y maes hwn. Ond yr unig ffordd i ni gyrraedd ein targedau yw bod pawb yn chwarae’u rhan – llywodraeth ar bob lefel, pobl, cymunedau a busnesau. Dyna pam rydym yn gweithio ar draws y llywodraeth, gyda’r sector cyhoeddus ehangach a chyda busnesau a chymunedau i helpu i gyflawni’r agenda hwn. Drwy weithio mewn partneriaeth fel hyn gallwn wynebu her y targedau lleihau allyriadau y mae’r wyddoniaeth yn eu mynnu.