Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym wedi ymrwymo o hyd i’n gweledigaeth o sicrhau llesiant i bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt ac i ofalwyr y mae angen cymorth arnynt. Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn ystod y deng mlynedd, bron, sydd wedi mynd heibio ers cyhoeddi ein Papur Gwyn cyntaf ar ofal cymdeithasol, Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu 2011, sef dechrau ein taith drawsnewidiol. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi creu newid yn natur y sector. Yn debyg i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n canolbwyntio ar lesiant, ethos o atal ac ymyrryd yn fuan a’r rheidrwydd i gynhyrchu ar y cyd a gweithio ar draws sectorau. 

Fodd bynnag, mae’r pandemig wedi rhoi’r system gofal cymdeithasol o dan straen enfawr ac wedi tynnu sylw at ba mor fregus yw’r sector. Mae blynyddoedd o gyni ledled y DU wedi gadael eu hôl ar gyllid cyhoeddus, ac mae cyfnod heriol arall o’n blaenau. Dyna pam bod yn rhaid i ni gyflymu ein gwaith trawsnewid i wneud gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy.

Rwyf wedi cyhoeddi ymgynghoriad papur gwyn ar ailgydbwyso gofal a chymorth. Er mwyn bod yn addas ar gyfer y dyfodol, rydym yn cynnig newidiadau deddfwriaethol sydd, yn ein barn ni, yn hanfodol i wireddu ein gweledigaeth. Ein bwriad yw datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal cymdeithasol a fydd yn ailgydbwyso gofal a chymorth. Bydd llai o gymhlethdodau yn ei sgil a bydd yn sicrhau mai ansawdd yw’r prif ffactor sy’n dylanwadu ar lwyddiant yn y farchnad gofal cymdeithasol.  Gwyddom fod parhad y gweithlu gofal cymdeithasol yn cael effaith sylweddol ar gyflawni canlyniadau pobl, ac felly y bydd cysylltiad cryf rhwng y fframwaith cenedlaethol a’r camau i gefnogi’r gweithlu.  

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac rydym yn awyddus i’w cefnogi i adeiladu ar eu llwyddiannau i gryfhau integreiddio ledled Cymru. Byddwn yn gwella Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol drwy ddarparu set fwy manwl o adnoddau iddynt eu defnyddio i gynllunio a darparu gofal a chymorth yn well lle mae gweithredu ar y cyd yn hanfodol er mwyn gwella llesiant pobl. 

Rwy'n gobeithio y bydd pob aelod o'r Senedd yn annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad, fel y gallwn weithio gyda’n gilydd i wireddu ein gweledigaeth o sicrhau llesiant pobl.