Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ailddatganiad o’i thablau ar gyfer Cyllideb Derfynol 2024-25, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Chwefror 2024.
Mae'r datganiad yn adlewyrchu'r newidiadau i gyfrifoldebau'r Cabinet a wnaed gan y Prif Weinidog wrth lunio’i lywodraeth.
Ar y cyd â thablau’r gyllideb wedi’u hailddatgan, cyhoeddir atodiad sy'n dangos yn fanwl yr holl symudiadau o'r hen strwythur i'r un newydd.