Eluned Morgan AC, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Mae’n bleser i gyhoeddi fy mod wedi penderfynu ail benodi aelodau presennol Pwyllgor Craffu Cymraeg i Oedolion Llywodraeth Cymru am ddwy flynedd arall. Mae tymor presennol y Cadeirydd Steve Morris a’r Aelodau, sef Anna Skalistira Bakratseva, Helen Barlow, a Richard Houdmont, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021.
Mae’r Cadeirydd a’r tri Aelod wedi derbyn fy ngwahoddiad iddynt barhau i fod ar y Pwyllgor am ddwy flynedd arall tan 31 Mawrth 2023. Rwy’n ddiolchgar ac yn fodlon iawn â chyfraniad y Pwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf ac yn hyderus eu bod yn craffu’n effeithiol ar waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, gan roi sicrwydd i mi fod y Ganolfan yn cyfrannu at amcanion Cymraeg 2050, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg.
Mae cyfraniad y Pwyllgor mynd i fod yn bwysicach nag erioed dros y flwyddyn neu ddwy nesaf wrth i ni gynllunio darpariaeth Dysgu Cymraeg ar ôl i dymor grant presennol y Ganolfan ddod i ben ar 31 Gorffennaf 2022. Bydd cael cyngor a chefnogaeth Pwyllgor Craffu profiadol yn bwysig i Weinidogion yn ystod y cyfnod hwnnw.
Dyma fanylion am aelodaeth y Pwyllgor Craffu:
Steve Morris - Cadeirydd
Mae Steve yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddo dros 35 mlynedd o brofiad fel ymarferwr addysgu, asesu a chwricwlwm yn yr iaith Gymraeg, gan ymuno â’r Adran Addysg Barhaus yn 1991 cyn trosglwyddo i Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn 2010 fel Athro Cysylltiol mewn Cymraeg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol. Etholwyd Steve i Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain (BAAL) yn 2012 ac mae’n gyd-ymchwilydd ac yn aelod o dîm rheoli prosiect ymchwil CorCenCC: Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes a ariennir gan ESRC/AHRC.
Anna Skalistira-Bakratseva
Daeth Anna i fyw i Gymru o Fwlgaria ac mae wedi dysgu Cymraeg. Mae ganddi radd meistr mewn meddygaeth ac wedi astudio Ffarmacoleg ar lefel Ph.D. Mae’n gweithio fel cyfieithydd yng Nghyngor Caerdydd.
Dr Helen Barlow
Wedi dysgu Cymraeg ac yn meddu ar brofiad helaeth mewn addysg fel tiwtor staff Cyfadran y Celfyddydau, darlithydd cysylltiol, awdur deunyddiau dysgu a phapurau cynhadledd, ac Adolygydd Academaidd ar gyfer y Brifysgol Agored.
Richard Houdmont
Dysgodd Richard Houdmont Gymraeg pan symudodd i Gymru ym 1977 i weithio i Wasg Prifysgol Cymru, lle dyrchafodd i fod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr. Yn fwy diweddar, fe weithiodd i'r Sefydliad Siartredig dros Farchnata fel Rheolwr Rhwydwaith Cymru, Iwerddon ac Ynys Manaw. Fe fuodd yn ymddiriedolwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 2016 a 2020 ac ar hyn o bryd yn Ddirprwy Gadeirydd Poetry Wales Press sy'n cyhoeddi o dan wasg 'Seren'.