Neidio i'r prif gynnwy

Jane Jutt AS,Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn i'r Aelodau wybod, fel rhan o'r gwaith di-dor i wella sefydlogrwydd a dilyniant o fewn Bwrdd Chwaraeon Cymru, fy mod yn gwneud tri ailbenodiad tymor byr i'r Bwrdd. 

Mae Judi Rhys MBE, Phil Tilley a Martin Veale wedi bod yn aelodau eithriadol o'r Bwrdd ers eu penodiad gwreiddiol, ac rwy'n falch iawn eu bod wedi derbyn gwahoddiad i barhau i wasanaethu ar y Bwrdd am dri mis ar ddeg arall. Bydd eu tymhorau ychwanegol yn dechrau ar 01 Medi 2024 ac yn dod i ben ar 30 Medi 2025. Rwy'n ddiolchgar i'r tri Aelod am gytuno i wasanaethu a sicrhau bod y Bwrdd yn parhau i redeg yn esmwyth. Bydd eu harbenigedd a'u profiad yn fy nghefnogi i a staff Chwaraeon Cymru i fynd ag amcanion y Rhaglen Lywodraethu yn eu blaen. 

Wrth wneud yr ailbenodiadau tymor byr hyn, rwyf am ddangos fy ngwerthfawrogiad i'r Athro Leigh Robinson, sy'n rhoi'r gorau iddi ar ddiwedd ei hail dymor i ddilyn cyfleoedd eraill. Mae ei gwasanaeth ar Fwrdd Chwaraeon Cymru wedi bod yn amhrisiadwy i'r sefydliad a Llywodraeth Cymru, ac rwy'n dymuno'n dda iddi at y dyfodol. 

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.