Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae ymchwiliadau’r timau ymchwilio ar y safle wedi dod i ben, ac mae’r peirianwyr wedi symud y trenau. Bydd yr ymchwiliadau’n parhau nawr oddi ar y safle, ac mae’n bwysig ein bod yn rhoi’r lle a’r amser i’r Gangen Ymchwiliadau i Ddamweiniau Rheilffyrdd, Swyddfa’r Ffyrdd a’r Rheilffyrdd a Heddlu Trafnidiaeth Prydain wneud eu gwaith.
Dros y penwythnos, mae Network Rail wedi cynnal archwiliadau diogelwch manwl.
Gallai’r ddamwain barhau i amharu rhywfaint ar bethau dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf gan gynnwys rhai newidiadau dros dro i’r gwasanaeth. Rydyn ni’n cynghori teithwyr i edrych ar yr amserlenni cyn teithio.
Dros yr wythnos sydd wedi mynd heibio, dwi wedi cadw mewn cysylltiad clos â Trafnidiaeth Cymru ac asiantaethau eraill i wneud yn siŵr bod y teithwyr a’r staff y mae’r ddamwain wedi effeithio arnyn nhw yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi creu llinell gymorth benodol, gyda chynghorwyr profiadol yn gweithio arni i helpu’r 41 o deithwyr oedd yn teithio ar y ddau drên. Mae’r help hwnnw wedi cynnwys gwasanaethau cwnsela ynghyd ag archwiliadau lles a mesurau ymarferol eraill fel cael y bagiau oedd wedi’u gadael ar y trenau yn ôl i’r teithwyr. Hefyd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi trefnu cymorth priodol i staff y rheilffyrdd y gwnaeth y ddamwain effeithio arnyn nhw.
Dwi’n ddiolchgar iawn i bawb yn y diwydiant rheilffyrdd sydd wedi gweithio mor galed ers y ddamwain i helpu’r rheini yr effeithiwyd arnyn nhw, ac i’n galluogi i ailddechrau’r gwasanaethau pwysig hyn. Dwi’n ddiolchgar hefyd i’r gymuned leol a’r teithwyr am eu hamynedd.