Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 13 Mehefin, cynrychiolais Lywodraeth Cymru yn ail uwchgynhadledd ar hugain Cyngor Prydain-Iwerddon yn Guernsey.  Cadeiriwyd y gynhadledd gan Brif Weinidog Guernsey, y Dirprwy Jonathan Le Tocq.  Roedd arweinwyr Llywodraethau eraill aelodau’r Cyngor yn bresennol hefyd, gan gynnwys:

 

  • An Taoiseach, Mr. Enda Kenny TD, Llywodraeth Iwerddon 
  • Y Dirprwy Brif Weinidog, y Gwir Anrh Nick Clegg AS, Llywodraeth y DU,
  • Prif Weinidog Llywodraeth Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrh Peter Robinson MLA, a’r dirprwy Brif Weinidog, Mr Martin McGuinness MLA
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Materion Allanol, Ms Fiona Hyslop MSP, Llywodraeth yr Alban,
  • Prif Weinidog, y Seneddwr Ian Gorst, Llywodraeth Jersey,
  • Prif Weinidog, Yr Anrh. Allan Bell MHK, Llywodraeth Ynys Manaw.

 

Mae Cyngor Prydain-Iwerddon yn hyrwyddo a meithrin cysylltiadau rhwng Llywodraethau ei Aelodau ac yn fforwm ymgynghori a chydweithredu.

Dyma oedd ar yr agenda: clywed adroddiadau am eu heconomi gan Lywodraethau’r Aelodau; trafodaeth am bwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth i’r economi ac ystyried gwaith y Cyngor sy’n mynd rhagddo.

Cafodd prif bwyntiau trafod yr ail Uwchgynhadledd ar hugain eu cyhoeddi mewn Communiqué ar y cyd. 

http://www.britishirishcouncil.org/news/22nd-british-irish-council-summit-held-guernsey