Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ynghyd â Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, mynychais ail Uwchgynhadledd ar bymtheg y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Nulyn ddydd Gwener 13 Ionawr. Cadeiriwyd y cyfarfod gan An Taoiseach, Enda Kenny, o Lywodraeth Iwerddon, gyda’r Gweinidogion arweiniol o Aelod Weinyddiaethau eraill y Cyngor yn mynychu, gan gynnwys:

  • Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth y DU, y Gwir Anrhydeddus Nick Clegg AS;
  • Prif Weinidog Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrhydeddus Peter Robinson MLA a’r Dirprwy Brif Weinidog, Mr. Martin McGuinness AS MLA;
  • Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Alex Salmond MSP;
  • Prif Weinidog Llywodraeth Jersey, y Seneddwr Ian Gorst;
  • Gweinidog Adran Gartref Llywodraeth Gurnsey, Dirprwy Geoff Mahy;
  • Prif Weinidog Llywodraeth Ynys Manaw, yr Anrhydeddus Allan Bell MHK.

Mae’r Cyngor yn parhau i chwarae rôl unigryw a phwysig o ran hybu, hyrwyddo a meithrin cysylltiadau rhwng yr Aelod Weinyddiaethau a chynnig fforwm ar gyfer ymgynghori a chydweithredu. Y tro hwn, roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i’r Aelod Weinyddiaethau drafod dwy eitem bwysig: yr economi gyda sylw penodol i ddiweithdra pobl ifanc, a dulliau adfer i fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau yn Ynysoedd Prydain ac Iwerddon.

O ran yr economi, soniais am y cyswllt annatod rhwng economi Cymru a chyflwr economïau y DU a’r byd. Mae’r heriau sy’n codi ym mharth yr Ewro, ynghyd â phenderfyniadau Llywodraeth y DU ynghylch polisïau cyllid, yn cael effaith ar y gwaith o greu swyddi yng Nghymru. O ganlyniad, mae ein cyfradd ddiweithdra wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i leihau effeithiau andwyol yr heriau economaidd hyn, a thynnais sylw at ddau becyn ariannu mawr newydd ar gyfer Cronfa Buddsoddi mewn Busnesau Bach a Chanolig Cymru a Chronfa Twf Economaidd Cymru, sy’n werth cyfanswm o £55 miliwn, i ysgogi economi Cymru a chefnogi twf busnesau ledled Cymru.

Gwella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc yw un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o hyd. Rydym yn mynd i’r afael â hyn drwy greu ein cronfa swyddi a hyfforddiant gwerth £75 miliwn, Twf Swyddi Cymru, a chynyddu’r cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau i bobl ifanc. Fe soniais hefyd sut yr ydym yn mynd ati i geisio atal plant a phobl ifanc rhag colli diddordeb mewn dysgu, ac yn rhoi cymorth iddynt i ymuno â’r farchnad lafur.  

O ran camddefnyddio cyffuriau, amlinellodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gefnogi gwaith adfer a gwaith i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau, a hynny’n cynnwys ariannu hyfforddiant ar gyfer rhaglenni sy’n seiliedig ar adfer yng Nghymru. Tynnodd y Gweinidog sylw at ddau gam gweithredu penodol a gymerwyd i roi ein strategaeth ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’ ar waith, sef y Cynllun Naloxone yn y Cartref a’r Cynllun Mentora Cymheiriaid sy’n derbyn nawdd Ewropeaidd.  Pwysleisiodd hefyd mor bwysig yw hi i sicrhau bod gwaith adfer a gwella yn cael ei gynnwys yn llawn mewn gwasanaethau prif ffrwd o fewn y gymuned ehangach.

Fel yr oeddwn wedi sôn wrth y Cynulliad, codais y mater o gysylltiadau ffurfiol rhwng y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig (BIPA) a’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Cytunodd y Cyngor i gyfeirio’r mater hwn at ei Ysgrifenyddiaeth Sefydlog newydd, i’w ystyried ymhellach ac i’w drafod yn ôl y gofyn gydag ysgrifenyddiaeth BIPA.

Cyhoeddwyd prif bwyntiau trafod yr ail Uwchgynhadledd ar bymtheg mewn cyd-hysbysiad, sydd ynghlwm. Yr Alban fydd yn cynnal Uwchgynhadledd nesaf y Cyngor, a hynny yn ystod yr haf eleni.