Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roeddwn yn bresennol yn ail a thrydydd cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero-net, Ynni a’r Newid yn yr Hinsawdd, a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd ac 8 Chwefror.

Ar 30 Tachwedd, cadeiriwyd y cyfarfod gan y Gwir Anrhydeddus Kwasi Kwarteng AS, y Gweinidog Gwladol dros Fusnes, Ynni a Thwf Glân. Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod oedd Roseanna Cunningham MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, y Newid yn yr Hinsawdd a Diwygio Tir, Paul Wheelhouse MSP, y Gweinidog Ynni, Cysylltedd a'r Ynysoedd, Edwin Poots MLA, y Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Diane Dodds MLA, Gweinidog yr Economi, a Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

Roedd y cyfarfod yn cynnwys trafodaeth ar y negodiadau masnach diweddaraf rhwng y DU a’r UE, lle mynegais fy siom nad oedd penderfyniad wedi’i wneud eto rhwng Cynllun Masnachu Allyriadau a Threth Allyriadau Carbon ar gyfer y DU. 

Buom hefyd yn trafod y cyngor sy'n cael ei lunio gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd. Tynnais sylw at y ffaith bod Cymru yn ddibynnol ar Lywodraeth y DU i wireddu’n hymrwymiadau rhyngwladol ac i gyrraedd targedau datgarboneiddio.

Yn olaf, yn ystod trafodaeth am Strategaeth Datgarboneiddio Diwydiannol Llywodraeth y DU, pwysleisiais yr angen i sicrhau bod llywodraethau'n cydweithio, a thynnais sylw at y gefnogaeth y bydd ei hangen ar ddiwydiant yng Nghymru i ddatgarboneiddio.

Ar 8 Chwefror, cadeiriais y cyfarfod ar ran Llywodraeth Cymru. Cynrychiolwyd Llywodraeth y DU gan Anne-Marie Trevelyan AS, y Gweinidog dros Fusnes, Ynni a Thwf Glân a Hyrwyddwr Rhyngwladol y DU ar Ymaddasu a Chydnerthedd ar gyfer Llywyddiaeth COP26, yr Arglwydd Callanan, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Kemi Badenoch AS, Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys ac Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol. Cynrychiolwyd Llywodraeth yr Alban gan Ben Macpherson MSP, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a'r Amgylchedd Naturiol, Paul Wheelhouse MSP, y Gweinidog Ynni, Cysylltedd a'r Ynysoedd. Cynrychiolwyd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon gan Gordon Lyons MLA, y Gweinidog Dros Dro dros Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Diane Dodds MLA, y Gweinidog dros yr Economi

Buom yn trafod Strategaeth Sero-net Llywodraeth y DU a'r Strategaeth Gwres ac Adeiladau, yn ogystal â'r datblygiadau diweddaraf ar Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU, gan gynnwys y pris wrth gefn mewn arwerthiannau.

Mae angen i bob un o'n pedair llywodraeth gydweithio a chysoni polisi os ydym am gyrraedd ein targedau sero-net uchelgeisiol. Mae’r trafod a’r cydweithredu ar y Pwyllgor Rhyngweinidogol yn gam i'w groesawu ar y daith at y cydweithio hwnnw.