Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Am 3.00 yp heddiw, fe gyhoeddais ail Gyllideb Atodol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2010-11.

Natur weinyddol sydd i'r Gyllideb Atodol hon yn bennaf. Mae'n adlewyrchu'r ail-flaenoriaethu a fu o fewn portffolios, ynghyd â nifer o drosglwyddiadau rhwng portffolios. Yn allweddol, mae’n cyflawni ein penderfyniad i ddod o hyd i'r holl ostyngiadau i'r gyllideb, a osododd Llywodraeth y DU arnom yn eu Cyllideb ym mis Mehefin 2010, yn y flwyddyn ariannol hon. Yn ogystal â hyn, mae'n darparu ar gyfer dyraniadau ychwanegol o'n cronfeydd wrth gefn.