Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddydd Gwener, 11 Tachwedd, cadeiriais yr ail gyfarfod Gweinidogol a gynhaliwyd gan Grŵp Ieithoedd Cynhenid, Lleiafrifol a Llai eu Defnydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Ngwesty Gweedore Court, Gaoth Dobhair, Iwerddon.

Sefydlwyd ffrwd waith yr Ieithoedd Cynhenid, Lleiafrifol a Llai eu Defnydd yn 2002 gan y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

Ystyriwyd a chymeradwywyd dau bapur yn ystod y cyfarfod:

  • Hybu Iaith a Diwylliant mewn Cymunedau Ieithoedd Lleiafrifol
  • Y diweddaraf ynghylch gweithgareddau ac awgrymiadau ar gyfer blaenraglen waith.

Cydnabuwyd bod hybu’r defnydd o ieithoedd cynhenid, lleiafrifol a llai eu defnydd mewn cymunedau yn hanfodol er mwyn hybu’r ieithoedd hynny a sicrhau eu dyfodol. Cymeradwyodd y Gweinidogion ganfyddiadau’r gynhadledd a gynhaliwyd yn Belfast ym mis Hydref 2010 a fu’n ystyried ac yn rhannu arferion da ym maes hybu iaith a diwylliant mewn cymunedau ieithoedd lleiafrifol. Roedd y Gweinidogion yn gytûn y dylai llywodraethau gefnogi prosiectau i hybu’r defnydd o ieithoedd cynhenid, lleiafrifol a llai eu defnydd ymhlith pobl ifanc, teuluoedd ac o fewn y gymuned ehangach. Nododd y Gweinidogion hefyd bwysigrwydd mabwysiadu strategaeth o dan arweiniad y llywodraeth i hybu’r defnydd o ieithoedd cynhenid, lleiafrifol a llai eu defnydd a chytunwyd i rannu arferion gorau o fewn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig wrth iddynt fynd ati i lunio strategaethau o’r fath.

Bu’r Gweinidogion yn adolygu’r hyn a gyflawnodd y ffrwd waith ers cynnal y cyfarfod Gweinidogol cyntaf yn 2006 a nodwyd y cyfraniad cadarnhaol a wnaed ganddi wrth sicrhau bod arferion gorau yn cael eu rhannu ymhlith y Gweinyddiaethau oedd yn Aelodau o’r Cyngor. Ystyriodd y Gweinidogion hefyd gynigion ar gyfer blaenraglen waith y Grŵp Ieithoedd Cynhenid, Lleiafrifol a Llai eu Defnydd a’u cymeradwyo. Bydd y grŵp yn parhau â’i waith ym meysydd addysg, pobl ifanc, darlledu, deddfwriaeth ac effaith ieithoedd cynhenid, lleiafrifol a llai eu defnydd ar yr economi. Bydd y grŵp yn canolbwyntio hefyd ar ddau faes newydd sef marchnata a TGCh (rhwydweithio cymdeithasol yn benodol). Tasg a roddodd y Gweinidogion i’r grŵp oedd canfod dulliau pellach o gydweithio â’r Rhwydwaith Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau cyhoeddus yn y maes hwn. Mae’r Rhwydwaith yn rhwydwaith ar gyfer Ewrop gyfan ac mae’n cwmpasu ieithoedd cyfansoddiadol, rhanbarthol a gwladwriaethau llai er mwyn hybu amrywiaeth ieithyddol yng nghyd-destun Ewrop amlieithog.

Cymeradwyodd y Gweinidogion hefyd yr hyn a wnaed gan seminar o ymarferwyr sy’n gweithio yn y maes yn hybu’r defnydd o ieithoedd cynhenid, lleiafrifol a llai eu defnydd ymhlith pobl ifanc. Trefnwyd y seminar mewn partneriaeth rhwng Grŵp Ieithoedd Cynhenid, Lleiafrifol a Llai eu Defnydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a’r Rhwydwaith Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol. Croesawodd y Gweinidogion y cyfle a roddwyd i ymarferwyr o Weinyddiaethau sy’n Aelodau o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig rannu profiadau â phartneriaid yn Ewrop drwy gyfrwng y Rhwydwaith Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol. Roedd y seminar a gynhaliwyd yn Gweedore ar 9 a 10 Tachwedd, yn gyfle i’r gweinyddiaethau rannu arferion gorau yn y maes.

Cynrychiolwyd Llywodraeth Iwerddon gan y Gweinidog Gwladol dros Faterion y Gaeltacht, Dinny McGinley TD, a groesawodd yr aelodau i’r cyfarfod. Cynrychiolwyd Llywodraeth yr Alban gan y Gweinidog Dysgu a Sgiliau, Alasdair Allan MSP.  Cynrychiolwyd Gogledd Iwerddon gan Carál Ní Chuilín MLA, y Gweinidog Diwylliant, y Celfyddydau a Hamdden a’r Is-weinidog Jonathan Bell MLA. Cynrychiolwyd Guernsey gan y Dirprwy Michael O’ Hara, Gweinidog, yr Adran Diwylliant a Hamdden, Jersey gan Mario Lundy, y Cyfarwyddwr Addysg, ac Ynys Manaw gan y Prif Swyddog Gweithredol, yr Adran Addysg a Phlant, Stuart Dobson. Cynrychiolir Llywodraeth y DU ar Grŵp Ieithoedd Cynhenid, Lleiafrifol a Llai eu Defnydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig gan y Gwir Anrhydeddus Hugo Swire AS, Gweinidog Gwladol Gogledd Iwerddon.