Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet
Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Hadroddiad Seneddol ar gyfraith a gymathwyd Ionawr 2024 – Mehefin 2024 a chyhoeddodd Ddatganiad Ysgrifenedig ar 23 Gorffennaf 2024. Cyflwynwyd adroddiad i'r Senedd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 ("Deddf REUL").
I ategu'r adroddiad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hail Ddiweddariad Chwemisol ar Ddeddf REUL (Ionawr 2024-Mehefin 2024) sy'n adrodd ar ymwneud Gweinidogion Cymru â Deddf REUL yn ystod yr un cyfnod adrodd. Parhaodd Llywodraeth flaenorol y DU i fodloni ymrwymiadau anstatudol i ofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru i ddefnyddio'r pwerau cydredol yn Neddf REUL mewn meysydd datganoledig.
Yn ystod y cyfnod adrodd ni ddefnyddiodd Gweinidogion Cymru bwerau Deddf REUL oedd ar gael iddynt.
Yn ystod y cyfnod adrodd, cydsyniodd Gweinidogion Cymru i Lywodraeth y DU ddefnyddio'r pwerau cydredol yn Neddf REUL ar gyfer tri Offeryn Statudol.
Gwnaeth Llywodraeth flaenorol y DU newidiadau i'r gyfraith a gymathwyd rhwng Ionawr a Mehefin 2024 drwy gyfanswm o 24 o offerynnau statudol. O'r 24 hynny, gwnaed wyth gan ddefnyddio pwerau Deddf REUL. O'r wyth hynny, roedd pump mewn meysydd a gadwyd yn ôl yn gyfan gwbl.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.