Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Mae caffael hen safle BP Chemicals ym Mae Baglan yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gyflwyno safle datblygu strategol mawr. Mae gan y safle hwn y potensial i helpu i drawsnewid sylfaen economaidd y rhanbarth o ddiwydiant trwm i ddiwydiannau'r dyfodol fel gweithgynhyrchu gwerth uchel a chynhyrchu ynni gwyrdd yn unol â'n Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu. Bydd hefyd yn cefnogi ein cyfleoedd sero net yn Ne-orllewin Cymru a thu hwnt.
Mae gan y tir botensial enfawr i gyd-fynd â nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru drwy gefnogi darparu swyddi a chyfleoedd cynhyrchiol o ansawdd uchel ar gyfer ymchwil a datblygu, a chreu cyfleoedd cynhwysol i bobl leol sy'n lleihau'r anghydraddoldebau presennol.
Mae gwaith eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â defnydd hanesyddol o'r safle a bydd ymgynghori â rhanddeiliaid lleol a grwpiau cymunedol yn digwydd unwaith y bydd cynlluniau ar gyfer gweithredu, cyflwyno a gwaith uwchgynllunio cychwynnol wedi'u gwneud.
Mae ymgysylltu strategol gyda Celtic Freeport, diwydiant a'r byd academaidd hefyd ar y gweill. Mae hyn yn cydnabod y rôl bosibl y mae'n rhaid i'r tir ei chwarae i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n bodoli mewn hydrogen a gwynt alltraeth arnofiol er mwyn pontio'n gyflym tuag at economi sero net yma yng Nghymru.