Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae adroddiadau diweddar o aflonyddu a cham-drin rhywiol mewn ysgolion yn peri pryder mawr imi. Mae unrhyw fath o aflonyddu neu gam-drin rhywiol yn gwbl annerbyniol ac ni ddylid ei oddef. Mae gan bob lleoliad addysg ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu parchu a bod ganddynt fynediad at amgylchedd dysgu lle maent yn teimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel.

Mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth draws-lywodraethol i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei gefnogi ac yn gallu rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt.

Gan gydnabod bod heriau diwylliannol ehangach wrth ddelio â'r mater hwn, rwyf yn bwriadu gweithio ar y cyd gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar ein hymateb, gan wrando ar leisiau plant a phobl ifanc.

Byddaf hefyd yn gofyn i Estyn gynnal adolygiad o ddiwylliant a phrosesau mewn ysgolion i helpu i ddiogelu a chefnogi pobl ifanc yn well. Bydd canfyddiadau’r adolygiad hwnnw’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi lleoliadau a llywio polisi Llywodraeth Cymru. Er hynny, rwy’n cydnabod na allwn aros am ganlyniad yr adolygiad cyn inni weithredu.

Er bod y broblem yn annhebygol iawn o fod yn gyfyngedig i'r ysgolion a enwir yn yr adroddiad Everyone’s Invited, byddwn yn ysgrifennu at yr ysgolion a nodwyd i gynnig cefnogaeth a chyngor ar ddarparu addysg cydberthynas.

Dylai fod gan bob ysgol, ac Awdurdod Lleol, arweinydd dynodedig sy'n gyfrifol am gefnogi dysgwyr gydag addysg cydberthynas a rhywioldeb. Rwyf wedi gofyn i swyddogion sefydlu a yw hynny'n wir ar hyn o bryd a byddaf yn diweddaru'r Aelodau maes o law.

Ym mis Rhagfyr 2020, gwnaethom gyhoeddi canllawiau ‘Rhannu delweddau noeth a hanner-noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc’ i gefnogi lleoliadau gyda datblygu gweithdrefnau i ymateb i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â rhannu delweddau noeth fel rhan o’u trefniadau diogelu. Ers i’r canllawiau gael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr, maent wedi cael eu gweld 3297 ac mae’r ddogfen ganllaw wedi’i lawrlwytho bron i 1,000 o weithiau. Rwyf wedi gofyn i swyddogion i weithio’n gyflym i ddatblygu modiwl hyfforddi byr, fel rhan o'r gyfres Cadw Dysgwyr yn Ddiogel, i sefydlu ymhellach y canllawiau hyn a fydd ar gael yn gynnar yn y flwyddyn academaidd newydd.

Mae’r ardal Cadw'n Ddiogel Ar-lein yn Hwb yn parhau i gefnogi diogelwch ar-lein ym maes addysg, gan ddarparu gwybodaeth, canllawiau ac adnoddau. Mae'n dangos i ddysgwyr, ymarferwyr a rhieni a gofalwyr sut mae rhoi gwybod am unrhyw faterion y maent yn eu profi ar-lein, yn ogystal â’u cyfeirio at wasanaethau cymorth pwrpasol.

Yn ddiweddar rydym wedi gweithio gyda Childnet International i sicrhau bod y pecyn cymorth ‘Step Up, Speak Up’ ar gael i ysgolion. Mae hyn yn cynnwys cyfres o gynlluniau gwersi a gweithgareddau sy'n mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein ymhlith pobl ifanc. Rydym yn parhau â’r gwaith hwn gyda Childnet International a byddwn yn sicrhau bod y pecyn cymorth ‘Just a Joke?’ ar gael i ysgolion.

Mae canllawiau helaeth ar gael ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys ein canllawiau statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer llywodraethwyr a phecyn cymorth ar gyfer staff addysg sy'n cynnwys arferion gorau. Mae hefyd wedi cefnogi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddatblygu ei strategaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae gan Gynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol ddeg amcan. Mae hyn yn cynnwys Amcan 2: Mwy o ymwybyddiaeth ymhlith plant o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a bod ymddygiad camdriniol bob amser yn anghywir. Gan weithio gyda Byrddau Diogelu rhanbarthol, rydym yn gweithredu'r cynllun. Fodd bynnag, rhaid inni adeiladu ar y momentwm hwn.

Nid oes amheuaeth gennyf y bydd gan y Cwricwlwm newydd i Gymru, a gyflwynir yn 2022, ran hanfodol yn y maes hwn. Am y tro cyntaf, bydd gan iechyd a llesiant yr un statws yn y gyfraith â meysydd pwysig eraill yng nghwricwlwm yr ysgol. Fe'i cynlluniwyd i gefnogi datblygiad hanfodion iechyd a llesiant ymhlith dysgwyr, sy'n cynnwys eu cefnogi i gael dealltwriaeth o sefyllfaoedd niweidiol a sut i ymateb yn briodol. Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb hefyd yn rhan statudol o'r cwricwlwm ar gyfer pob lleoliad. Y bwriad yw y bydd hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu cydberthnasau iach o'r blynyddoedd cynnar ymlaen.

Fel mater o flaenoriaeth, byddwn yn awr yn cynnal adolygiad o'r adnoddau sydd ar gael i sicrhau bod ein hysgolion a'n dysgwyr yn cael cefnogaeth lawn gydag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Byddwn yn gweithio gydag ysgolion i ddarganfod sut mae'r adnoddau presennol yn cael eu defnyddio ac i sicrhau ei bod mor rhwydd â phosibl dod o hyd i adnoddau ar Hwb.

Hoffwn gloi drwy dynnu sylw at ystod o gefnogaeth i rai sydd wedi dioddef o aflonyddu a cham-drin rhywiol. Mae gennym sawl llinell gymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi'i sefydlu, yn benodol Childline Cymru, Byw Heb Ofn a'r gwasanaeth MEIC. Byddwn yn annog pobl i wneud defnydd llawn ohonynt.

Childline Cymru
0800 1111

Byw Heb Ofn
0808 80 10 800

MEIC
0808 80 23 45