Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi enwau dau aelod newydd o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Ysgrifennais yn ddiweddar at y cyrff enwebu yn gofyn am enwebiadau ar gyfer dwy swydd wag yn cynrychioli gweithwyr a chyflogwyr. Gallaf gadarnhau bod Siân Boyles, Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS), a Russell Greenslade, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru (CBI), wedi derbyn fy ngwahoddiad i ymuno â'r Cyngor.
Hoffwn groesawu Siân a Russell a ddechreuodd ar eu tymor tair blynedd ar 1 Chwefror.
Mae Siân yn cymryd lle Darren Williams fel cynrychiolydd gweithwyr, ac mae Russell yn cymryd lle Ian Price fel cynrychiolydd cyflogwyr. Hoffwn dalu teyrnged i Darren ac Ian am eu gwasanaeth, ac am fod yn rhan o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol cyntaf.
Cafodd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, sy'n cael ei gadeirio gennyf i yn rhinwedd fy rôl fel Prif Weinidog Cymru, o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (y Ddeddf). Mae'r aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat, a'r trydydd sector yng Nghymru, ac maent yn rhoi gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru ynglŷn â'r canlynol:
- y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol y mae'r Ddeddf hon yn eu gosod ar gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru;
- gwaith y cyrff cyhoeddus i gyflawni nod llesiant Cymru Lewyrchus, wrth iddynt wneud gwaith datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
- y swyddogaethau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 o'r Ddeddf.
Mae’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn gweithredu mewn ffordd agored a thryloyw. Ac eithrio o dan amgylchiadau anarferol, cyhoeddir yr wybodaeth a'r cyngor a ddarperir i Weinidogion Cymru, a phapurau a chofnodion cyfarfodydd, ar ei wefan: y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Mae'r Cyngor yn sicrhau bod partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i weithgarwch Llywodraeth Cymru, ac rwy'n hyderus y bydd gweithio'n agos ac yn adeiladol gyda chynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr yn y modd hwn yn ein galluogi i gyflwyno gwelliannau sy'n fuddiol i'r ddwy ochr o ran cydraddoldeb, tegwch a llesiant mewn gweithleoedd ledled Cymru.
Mae'r Cyngor yn gorff cymharol newydd, ac mae wedi cyflawni llawer ers iddo gyfarfod am y tro cyntaf ar 1 Chwefror 2024.
Hyd yn hyn, cynhaliwyd pum cyfarfod rheolaidd. Yn y cyfnod hwnnw, rwyf wedi ymgynghori â'r Cyngor ar Gyllideb Ddrafft 2024-2025 Llywodraeth Cymru, blaenoriaethau deddfwriaethol Gweinidogion Cymru, ac amcanion llesiant Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi cyflawni'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyfer 2024.
Mae'r Cyngor hefyd wedi cymeradwyo adroddiad ar Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) a gynhyrchwyd gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, ar oblygiadau AI i'r gweithlu, ac mae wrthi'n ystyried y camau nesaf. Mae wedi cytuno i sefydlu gweithgorau i ystyried y canlynol: y defnydd o gymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau; a materion sy'n gysylltiedig â chefnogi Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae'r Cyngor hefyd wedi trafod effaith Bil Hawliau Cyflogaeth y DU sydd ar ei daith drwy Senedd y DU ar hyn o bryd.
Bydd Siân a Russell yn ymuno ag aelodau presennol y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol:
Cynrychiolwyr Gweithwyr
Ruth Brady, GMB
Neil Butler, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau
Peter Hughes, Undeb Unite
Gareth Lloyd, Undeb Prifysgolion a Cholegau
Shavanah Taj, TUC Cymru
Jess Turner, UNSAIN
Mike Walker, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol
Helen Whyley, y Coleg Nyrsio Brenhinol
Cynrychiolwyr Cyflogwyr
Pippa Britton, Sector Gwirfoddol
Y Fonesig Elan Closs-Stephens, Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus
Ben Cottam, Ffederasiwn Busnesau Bach
Y Cynghorydd Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Yr Athro Wendy Larner, Prifysgol Caerdydd
Nicola Prygodzicz, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Janis Richards, Make UK Ltd
Kathryn Robson, Addysg Oedolion Cymru