Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf hefyd yn falch bod y canlynol wedi cytuno i fod yn aelodau o’r grŵp:

Heddiw, rwyf yn falch o gyhoeddi bod Delyth Evans, a oedd yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 2000 a 2003, wedi cytuno i gadeirio'r grŵp gorchwyl a gorffen.

Ym mis Awst, cyhoeddais y byddai grŵp newydd yn cael ei sefydlu i adolygu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’r dyfodol.

  • Barry Liles, Prifathro Coleg Sir Gâr;
  • Heledd Bebb, cyn ddarlithydd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bellach yn Gyfarwyddwr gyda chwmni Ymchwil OB3;
  • Bethan Guilfoyle, cyn brifathrawes Ysgol Gyfun Treorci;
  • Rhun Dafydd, wedi ei enwebu fel cynrychiolydd myfyrwyr gan UCM Cymru;
  • Yr Athro Mari Lloyd-Williams, darlithydd ym Mhrifysgol Lerpwl, a’r
  • Athro Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Bydd gofyn i'r grŵp gorchwyl a gorffen ystyried y canlynol a darparu adroddiad ac argymhellion i mi:

  • A yw model a strwythur presennol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yr briodol ac yn addas at y diben o hyrwyddo a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg AU o 2017 ymlaen. Os nad ydyw, dylid diffinio rôl, gweithgareddau a strwythur y Coleg (neu endid arall) i’r dyfodol, gan roi ystyriaeth lawn i werth am arian a chynaliadwyedd.
  • Beth yw’r opsiynau ar gyfer cyllido’r Coleg i’w dyfodol.
  • A yw’r berthynas rhwng y Coleg a sefydliadau AU yng Nghymru yn gynaliadwy i’r dyfodol.
  • A ddylid ymestyn cylch gwaith y Coleg i gynnwys y sector ôl-16 (addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith), ac os felly, dylid cynnig opsiynau posib ar sut i symud mlaen gyda hyn.
  • Beth yw rôl y Coleg mewn ymateb i argymhellion adolygiad Diamond a datblygiadau polisi diweddar eraill.

Cadarnhaodd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18, a gyhoeddwyd ar 18 Hydref, bod y gyllideb ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn awr yn un o gyfrifoldebau Is-adran y Gymraeg. Mae £5.4m wedi ei ddyrannu i gefnogi gweithgareddau’r Coleg gyda £0.330m ychwanegol yn cael ei ddarparu drwy CCAUC i gefnogi’r Cynllun Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg. Bydd hyn yn rhoi sefydlogrwydd i’r Coleg nes bydd y grŵp adolygu wedi adrodd ar ei ganfyddiadau.