Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Bwrdd y Rhaglen Dileu TB Gwartheg wedi'i sefydlu. Yn dilyn ffurfio'r Grŵp Cynghori Technegol (TAG) ar TB Gwartheg ym mis Ebrill 2024, mae hyn yn cwblhau'r strwythur Llywodraethu ar gyfer y rhaglen a nodir yng Nghynllun Cyflawni Rhaglen Dileu TB a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023.

Bwriedir i'r Bwrdd, i raddau helaeth, gynnwys ffermwyr o wahanol rannau o Gymru a chefndiroedd ffermio gwahanol. Yn yr un modd, bydd cadeirydd y Bwrdd hefyd yn ffermwr. 

Bydd swyddogion sy'n cynrychioli tri sefydliad allweddol yn y diwydiant - Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a changen Cymru o Gymdeithas Filfeddygol Prydain - hefyd yn cael eu penodi. 

Yn olaf, bydd tri aelod ex officio yn cynrychioli Llywodraeth Cymru (2) a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (1). 

Anfonwyd llythyrau penodi, a byddaf yn cyhoeddi manylion pellach unwaith y byddaf wedi cael cadarnhad eu bod wedi'u derbyn.

Bydd y Bwrdd yn cyfarfod bob chwarter a bydd yn ystyried tystiolaeth a chyngor gan y Grŵp Cynghori Technegol (TAG) ar TB, yn ogystal â chan eraill. Bydd y Bwrdd yn rhoi cyngor strategol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Bydd blaenoriaethau cynnar y Bwrdd yn cynnwys cytuno ar ei “ffyrdd o weithio” a chylch gorchwyl, ystyried cyngor y TAG mewn perthynas â'r adolygiad chwe blynedd o dargedau dileu TB Cymru, ac archwilio sut i wella dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu â ffermwyr a milfeddygon.

Rwy'n arbennig o hapus i wneud y cyhoeddiad hwn gan ei fod yn dangos ymrwymiad clir Llywodraeth Cymru i wrando ar y diwydiant a rhoi gwaith partneriaeth wrth wraidd y Rhaglen Dileu TB Gwartheg.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.