Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Ellen Donovan wedi’i phenodi i gynrychioli Cymru ar yr Awdurdod Meinweoedd Dynol.

Bydd Ms Donovan yn dechrau yn y swydd ar 1 Ebrill 2021 am gyfnod o dair blynedd. Mae gan Ms Donovan brofiad helaeth ar lefel bwrdd mewn sefydliadau sector preifat a chyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae hi’n gyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Masnachu a Chyfarwyddwr Gweithrediadau yn Debenhams PLC.

Mae’r swydd hon yn un bwysig iawn ac rwy’n hyderus y bydd profiad helaeth Ms Donovan o fantais enfawr i’r Awdurdod.

Daw penodiad yr Aelod presennol o Gymru, Mr William Horne, i ben pan fydd Ms Donovan yn dechrau yn ei swydd. Mae Mr Horne wedi gwasanaethu ar Fwrdd yr Awdurdod Meinweoedd Dynol ers bron i saith mlynedd. Hoffwn dalu teyrnged iddo am ei ymroddiad i’r swydd, a dymunaf yn dda iddo yn y dyfodol.

Sefydlwyd yr Awdurdod Meinweoedd Dynol o dan ddarpariaethau Deddf Meinweoedd Dynol 2004. Mae’n gyfrifol am reoleiddio gweithgarwch sy’n ymwneud â thynnu, cadw, defnyddio a gwaredu meinweoedd dynol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r Ddeddf yn darparu y bydd un o aelodau’r Awdurdod Meinweoedd Dynol yn cael ei benodi gan Lywodraeth Cymru. Telir £7,883 y flwyddyn i Aelodau’r Awdurdod Meinweoedd Dynol sy’n adlewyrchu ymrwymiad amser o ddau ddiwrnod y mis.