Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Yn dilyn cyfarfod cyntaf Tasglu Ffoaduriaid Syria, ymrwymais i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ar hynt y gwaith o adsefydlu ffoaduriaid o Syria yng Nghymru. Cyfarfu’r Tasglu ar 19 Tachwedd ac roedd cynrychiolwyr o faes Iechyd, Llywodraeth Leol, y Trydydd Sector, y Sector Preifat, y Swyddfa Gartref a’r Heddlu yn bresennol. Rwy’n falch o gael cyhoeddi y bydd pedwar Awdurdod Lleol yng Nghymru yn croesawu tua 50 o ffoaduriaid o Syria cyn y Nadolig. Nid ydym am ddatgelu’r union niferoedd, manylion yr Awdurdodau Lleol na’r dyddiadau cyrraedd gan mai’r ffoaduriaid eu hunain sy’n bwysig yn hyn i gyd.
Mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yn awyddus i adsefydlu ffoaduriaid o Syria ac mae’r 18 arall mewn cyfnodau gwahanol yn y broses. Mae gan Awdurdodau Lleol benderfyniadau allweddol i’w gwneud ac mae’n rhaid rhoi digon o amser iddynt fynd drwy’r broses o sicrhau bod y gwasanaethau angenrheidiol ganddynt.
Fel pawb yng Nghymru, mae’r ymosodiadau terfysgol diweddar ym Mharis, Mali a Beirut wedi fy mrawychu. Roedd yn siom gweld rhai yn dewis beirniadu llywodraethau am gynnig cartrefi newydd i ffoaduriaid yn dilyn yr ymosodiadau hyn. Mae Llywodraeth y DU yn fy sicrhau y bydd pawb sy’n dod yma wedi bod drwy brofion trylwyr yn y gwersylloedd cyn cael eu derbyn, a gallwn fod yn siŵr eu bod yn ffoaduriaid go iawn ac nad ydynt yn fygythiad i’n diogelwch. Yma yng Nghymru, rydym yn ymfalchïo yn ein hanes o groesawu ffoaduriaid o bob rhan o’r byd, gan gynnwys Syriaid, sydd wedi dod i’r DU a hawlio lloches. Rwyf am anfon neges glir bod croeso i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Bydd y broses o’u hintegreiddio yn dechrau y diwrnod y byddant yn cyrraedd ac mae nifer o wasanaethau i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi bod ar gael gennym ers blynyddoedd lawer. Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ynghylch ein Cynllun Cyflawni dros Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches sy’n amlinellu ein cynigion ar gyfer y 3 blynedd nesaf. Er mai dim ond am hyn a hyn y bydd gennym y Tasglu, felly, mae gyda ni weledigaeth hirdymor a chynaliadwy eisoes ar gyfer cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Rwy’n ariannu Cydgysylltwyr Cydlyniant Cymunedol ledled Cymru sy’n sicrhau, fel rhan o’u rhaglen waith, bod yna systemau i fonitro tensiynau ar lefel leol. Mae ganddynt rôl allweddol hefyd wrth godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb a sicrhau bod swyddogion Awdurdodau Lleol yn cael yr hyfforddiant angenrheidiol. Dydw i ddim yn barod i oddef troseddau casineb o gwbl, ac rwy’n condemnio’n gryf unrhyw gam-drin ar Fwslemiaid yn sgil ymosodiadau fel y rheini rydym wedi bod yn dyst iddynt yn ystod y dyddiau diwethaf. Rwyf am anfon neges glir i unrhyw un sy’n dioddef casineb oherwydd lliw eu croen, eu ffydd neu eu statws mewnfudo, na fyddwn yn goddef hyn yng Nghymru. Rydym yn cydweithio’n agos â’r Heddlu ar ein Bwrdd Cyfiawnder Troseddol ar gyfer Troseddau Casineb ac rydym yn ariannu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru er mwyn cynnig cefnogaeth i bawb sy’n dioddef yn sgil troseddau casineb.
Mae’r gwaith yn mynd rhagddo yn gyflym yng Nghymru ac, yng nghyfarfod cyntaf y Tasglu, nodwyd meysydd ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru lle mae angen cydlynu gweithgarwch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Awdurdodau Lleol, yn enwedig y rheini nad oes ganddynt brofiad blaenorol o groesawu ffoaduriaid. Rwyf wedi ariannu cynhadledd sy’n cael ei chynnal heddiw sy’n canolbwyntio ar fywyd yng ngwersylloedd y Cenhedloedd Unedig, profiad Awdurdodau Lleol sydd wedi cymryd ffoaduriaid o Syria eisoes o dan y cynllun hwn, a materion cydlyniant cymunedol. Mae cynrychiolwyr o bob un o’r 22 Awdurdod Lleol wedi mynd i’r gynhadledd, a gwahoddwyd Byrddau Iechyd, sefydliadau nad ydynt wedi’u datganoli a’r Sector Preifat.
Rwyf hefyd wedi ariannu pecyn Croeso i Gymru sy’n rhoi gwybodaeth hollbwysig ar fywyd yng Nghymru ac mae’n cynnwys adran ar yr ardal leol lle bydd y ffoaduriaid yn byw. Bydd fersiwn ar gael hefyd i blant a phobl ifanc. Bydd y pecynnau ar gael yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn Arabeg a byddant o ddefnydd i bob ffoadur yng Nghymru, nid dim ond i’r rheini sy’n cyrraedd drwy Gynllun Adsefydlu Pobl o Syria sy’n Agored i Niwed.
Mae nifer o gamau i’w cymryd yn sgil gwaith y Tasglu, gan gynnwys sicrhau bod gyda ni ddulliau ardderchog o gyfathrebu. Bydd y Bwrdd Gweithredu yn cwrdd unwaith eto ym mis Rhagfyr a Ionawr a rhoddaf yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad unwaith eto ym mis Chwefror 2016, ar ôl cyfarfod nesaf y Tasglu.