Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Carl Sargeant, Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddydd Llun fe gyhoeddwyd dau adroddiad mewn perthynas â Chyngor Sir Penfro. Cyhoeddodd Estyn ei adroddiad  arolygu ar wasanaethau addysg a chyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ei hadroddiad arolygu arbennig ar y modd y mae’r Cyngor yn rhoi trefniadau diogelu ar waith. Rydym yn gwneud y datganiad hwn er mwyn hysbysu’r Aelodau ein bod yn bwriadu ymateb mewn modd cydgysylltiedig ar draws ein meysydd cyfrifoldeb er mwyn ymdrin â’r materion a godwyd yn yr adroddiadau hyn.

Mae yna gysondeb rhwng canfyddiadau’r ddau adroddiad am nifer o faterion, ac maent yn cynnwys beirniadaeth ddifrifol o berfformiad yr awdurdod lleol. Mae’r modd y caiff y trefniadau diogelu eu harolygu a’u rheoli yn parhau i beri pryder i’r ddwy arolygiaeth. 

Ym marn SAC, mae methiant y Cyngor i fynd i’r afael â’r gwendidau ym maes diogelu yn adlewyrchu gwendidau ehangach yn ei systemau a’i ddiwylliant, yn enwedig o ran herio penderfyniadau, a bod yn atebol amdanynt, ynghyd ag ymateb i’r angen am newid. 

Daeth adroddiad SAC i’r casgliad bod y Cyngor yn fwy ymwybodol bellach o’r materion diogelu, a’i fod wedi cyflwyno rhai newidiadau cadarnhaol, ond nad oedd wedi ymateb yn ddigon cyflym ac egnïol i’r methiannau y tynnwyd sylw atynt mewn adroddiadau blaenorol. Nid yw wedi ymdrin â gwendidau hysbys yn ei systemau, a gallai hynny adlewyrchu gwendidau ehangach yn ei systemau a’i ddiwylliant, yn enwedig o ran herio penderfyniadau a bod yn  atebol amdanynt. 

Daeth SAC i’r casgliad mai prin fu’r cynnydd mewn rhai meysydd hanfodol bwysig ers iddi gyhoeddi ei hadroddiad diwethaf ym mis Ionawr 2011. Daeth yr Archwilydd Cyffredinol i’r casgliad, felly, bod y Cyngor wedi methu â chyflawni ei ddyletswydd o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i wneud trefniadau er mwyn sicrhau gwelliant.

Yn ei gasgliadau cyffredinol, barn tîm arolygu Estyn oedd bod perfformiad y gwasanaethau addysg ar hyn o bryd yn anfoddhaol, a bod y gallu i wella hefyd yn anfoddhaol. Yn sgil y diffygion hynod ddifrifol hyn, mae Estyn o’r farn y dylid gweithredu mesurau arbennig mewn perthynas â’r awdurdod.  

Er gwaethaf y cymorth sylweddol a roddwyd i’r awdurdod ar ffurf Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro, daw Estyn i’r casgliad nad yw’r awdurdod wedi gwneud digon o gynnydd wrth reoli a llywodraethu’r trefniadau diogelu.  Er bod yna bolisïau a gweithdrefnau newydd ar waith sydd wedi gwella ymwybyddiaeth a’r arferion, mae Cyngor Sir Penfro wedi methu ymdrin â’r materion diwylliannol y tynnwyd sylw atynt yn y gorffennol. Nid yw’r awdurdod wedi gwneud digon o gynnydd wrth reoli a llywodraethu’r trefniadau diogelu i roi sicrwydd digonol bod y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu cyflwyno.

O ran y perfformiad addysgol, daeth Estyn i’r casgliad nad oedd y perfformiad mewn ysgolion cynradd yn cymharu’n dda â pherfformiad ysgolion tebyg mewn awdurdodau eraill ledled Cymru. Er y bu gwelliannau mewn presenoldeb, mae gormod o ysgolion cynradd yn yr hanner is o gymharu ag ysgolion tebyg ar y meincnodau prydau ysgol am ddim. Nid yw trefniadau’r awdurdod ar gyfer cefnogi a herio ysgolion yn ddigon trylwyr, ac nid ydynt wedi cael digon o effaith ar wella deilliannau. Mae’r awdurdod hefyd yn ymateb yn rhy araf i’r lefel gynyddol o leoedd dros ben yn y sector uwchradd. 

Barn Estyn oedd bod y gallu i wella yn anfoddhaol. Canfu fod arweinwyr corfforaethol ac uwch aelodau etholedig wedi bod yn rhy araf i gydnabod problemau allweddol o ran diogelu a newid y diwylliant mewn gwasanaethau addysg, a’u gwella. Roedd yr arweiniad ar lefel cyfarwyddiaeth a gwasanaeth yn wan ac roedd yr aelodau etholedig wedi’i chael yn anodd craffu ar benderfyniadau yn ddigonol a dwyn gwasanaethau i gyfrif. 

Canfu Estyn nad oedd y cynlluniau gweithredol a phartneriaeth yn nodi mesurau deilliannau a cherrig milltir perthnasol yn gyson i alluogi swyddogion i olrhain cynnydd, atebolrwydd a pherfformiad yn effeithiol, ac nad oedd y trefniadau rheoli perfformiad yn y gyfarwyddiaeth addysg yn ddigon trylwyr i gynnal ac ysgogi gwelliant. 

I grynhoi, mae’r ddau adroddiad nid yn unig yn peri pryder clir a pharhaus ynghylch y dulliau o reoli, llywodraethau a goruchwylio'r trefniadau diogelu, ond maent hefyd yn amlygu diwylliant corfforaethol diofal sydd nid yn unig yn methu darparu digon o graffu nac arweiniad, ond sydd hefyd yn methu cefnogi staff rheng flaen. Yn fwyaf arwyddocaol oll, mae’n amlwg bod y diffyg llywodraethu corfforaethol hwn yn ymestyn y tu hwnt i feysydd diogelu a safonau addysgol.

Nid yw adroddiad SAC yn cyflwyno unrhyw argymhellion pellach ar gyfer Cyngor Sir Penfro. Mae yn argymell, fodd bynnag, bod Gweinidogion Cymru yn cynnig cymorth yn ffurfiol er mwyn ymdrin â’r gwendidau ehangach hyn.  Mae gofyniad cyfreithiol arnom i gynnig cymorth o’r fath cyn i ni ymyrryd yn ffurfiol yn y meysydd hyn, ond nid ydym yn diystyru ymyrryd yn y dyfodol os bydd hynny’n angenrheidiol, neu os na fydd y Cyngor yn ymateb yn gadarnhaol i’n cynnig ni o gymorth.

Mae adroddiadau Estyn a SAC yn gyson â’i gilydd ac yn ddamniol. Er gwaetha’r ffaith ei bod wedi cael cymorth helaeth gan y Llywodraeth, nid yw Sir Benfro wedi gwneud digon o bell ffordd i sefydlu gweithdrefnau darparu cadarn, nac i’w sicrhau ei hun ynghylch safonau’r arferion. Nid yw’r awdurdod yn sicrhau bod tro bod y bobl hynny sy’n gwneud penderfyniadau yn atebol amdanynt, na bod y penderfyniadau hynny yn destun proses graffu agored ac effeithiol. Mae hefyd yn ymateb yn wael i feirniadaeth, hyd yn oed pan wneir y feirniadaeth honno gyda’r bwriadau gorau, ac ar sail tystiolaeth gadarn. Mae’r rhain yn fethiannau sylfaenol mewn unrhyw gorff democrataidd ac yn gofyn am ymateb cadarn, cyflym a chydlynol gennym ni. Mae diffygion y Cyngor yn peri risg annerbyniol i wasanaethau yn Sir Benfro. Os na all y Cyngor ymdrin â’r materion hyn, yna byddwn ni’n gwneud hynny.

Gan fod y sefyllfa yn un annerbyniol, rhaid i ni roi blaenoriaeth i gynnig digon o gefnogaeth a her i sicrhau gwelliannau cyn gynted â phosibl.  

Nid yw’r methiannau y tynnwyd sylw atynt wedi’u cyfyngu i un maes darpariaeth. Maent yn adlewyrchu gwendidau corfforaethol a methiannau difrifol yn y gwasanaeth addysg, ond mae’r methiannau o ran diogelu yn symptom amlwg iawn o broblemau llywodraethu a materion diwylliannol dyfnach o fewn yr awdurdod. 

Mae gofyn i ymateb Gweinidogion Cymru, felly, ymdrin â’r materion ehangach a gwella sefyllfa gorfforaethol yr awdurdod. Bydd angen iddo hefyd sicrhau bod y gwelliannau a’r newidiadau sy’n cael eu cyflwyno mewn perthynas â diogelu a chanlyniadau addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael eu gweithredu’n gyflym a’u bod yn cael effaith wirioneddol ar lawr gwlad. 

Rhaid i ni weld gwelliant cynaliadwy hirdymor yn awr a fydd yn ymwreiddio yn niwylliant ac arferion yr awdurdod ar bob lefel.

Byddwn yn cydweithio’n agos dros yr wythnosau nesaf er mwyn ystyried ein hymateb i’r adroddiadau hyn, ac yn cynnal trafodaethau pellach â’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddwn yn penderfynu ar ein trefniadau arfaethedig cyn gynted â phosibl, wrth gwrs, ac yn sicrhau y caiff y camau angenrheidiol eu cymryd ar fyrder.  

Bydd Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro yn parhau i weithredu am yr ychydig fisoedd nesaf, a hynny er mwyn parhau i gynorthwyo’r gwaith o wella trefniadau diogelu’r awdurdod, ac hefyd i helpu yn ystod unrhyw gyfnod pontio i drefniadau cymorth newydd pan gytunir arnynt.

Byddwn yn rhoi manylion llawn ein hymateb i’r adroddiadau hyn i’r Cynulliad yn y flwyddyn newydd.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.