Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cylch gwaith i Gorff Adolygu Cyflogau’r GIG (dolen allanol) a’r Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion (y DDRB) (dolen allanol) ynghylch tâl staff y GIG a gyflogir ar delerau ac amodau’r Agenda ar Gyfer Newid; yn feddygon a deintyddion yn eu tro.
Rwy’n ddiolchgar i’r cyrff adolygu cyflogau annibynnol am eu hargymhellion a’u sylwadau. Rwy’n gwybod bod y cyngor a roddir ganddynt yn cael ei werthfawrogi gan Reolwyr y GIG a’r Undebau Llafur. Ar ôl dwys ystyried eu cynigion, rwyf wedi derbyn yr argymhellion a ganlyn ar gyfer 2017-18:
- Rwyf wedi derbyn yr argymhelliad ar gyfer codiad cyfunol o 1% i bob graddfa gyflog o 1 Ebrill 2017 i staff a gyflogir ar delerau ac amodau’r Agenda ar Gyfer Newid gan y GIG yng Nghymru.
- I feddygon a deintyddion cyflogedig, bydd cynnydd cyfunol o 1% yn cael ei gymhwyso i bob graddfa gyflog o 1 Ebrill 2017. Bydd cynnydd o 1% yn cael ei gymhwyso i werth dyfarniadau rhagoriaeth glinigol; cynnydd o 1% yn cael ei gymhwyso i werth dyfarniadau ymrwymiad a chynnydd o 1% yn cael ei gymhwyso i werth grant hyfforddi Meddygon Teulu, yn unol ag argymhellion y DDRB.
- I Feddygon Teulu cyflogedig bydd cynnydd o 1% yn uchafswm ac isafswm y cyflog. Ni fydd cynnydd yn y raddfa i arfarnwyr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol. Bydd y swm yn aros yn £500. Yn yr un modd, bydd yr hyn a delir yn ychwanegol i gofrestrwyr arbenigol mewn practis cyffredinol yn aros ar 45% o’r cyflog sylfaenol ar gyfer y rheini sydd ar y contract presennol sy’n gymwys i’r DU gyfan.
- I Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol sydd yn gontractwyr, bydd codiad cyflog, yn net o dreuliau, o 1%. Bydd hyn yn cael ei weithredu o fewn y cytundeb ehangach ynghylch y codiad blynyddol ar werth y contractau Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol. Ochr yn ochr â hyn, rwyf hefyd wedi cytuno i gynnydd o 1% ar gyflogau’r rheini sydd mewn swyddi Gweithredol ac Uwch yn y GIG yng Nghymru nad ydynt wedi cael dyfarniad cyflog ers 2009.
Rwyf wedi ymrwymo o hyd i fynd i’r afael â mater cyflogau isel yng Nghymru, a byddaf yn sicrhau bod cyflog teg yn cael ei dalu i’r rheini sy’n ennill llai o gyflog yn y GIG yng Nghymru fel yr argymhellwyd gan y Living Wage Foundation. Felly, rwy’n gweithredu’r codiad i’r cyflog byw – i £8.45 yr awr – i holl staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol o 1 Ebrill 2017
Pleser yw gaIlu bodloni argymhellion y cyrff adolygu cyflogau yn llawn ac i ddangos ein hymrwymiad parhaus i staff sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru.
Mae’r Cyrff Adolygu Cyflogau yn gwneud nifer o argymhellion a sylwadau ehangach yn seiliedig ar gasglu a dadansoddi tystiolaeth gynhwysfawr. Mae rhywfaint o’r dystiolaeth yn benodol iawn ac yn ymwneud â gweithredu dyfarniad cyflog y flwyddyn hon a’r dadansoddiadau data pellach yr hoffent eu gweld yn y dyfodol. Mae’r adroddiadau hefyd yn codi cwestiynau diddorol ynglŷn â rôl targedu cyflog, effaith unrhyw chwyddiant yn y dyfodol ar ffrwyno cyflog a’r defnydd o’r broses adolygu cyflog fel arf i gyflawni newid o ran darparu gwasanaethau.
Rwy’n nodi’r argymhellion a’r sylwadau ehangach hyn ac rwyf am sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn drylwyr. Yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda staff a chyflogwyr i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r gweithlu. Byddaf felly yn gofyn i’r undebau a’r cyflogwyr iechyd yng Nghymru gydweithio â’r llywodraeth i roi ystyriaeth bellach i’r materion hyn ac i ddatblygu barn am y ffordd orau i fwrw ymlaen â’r agenda ehangach hon yng Nghymru er budd y GIG a phawb sy’n defnyddio’r gwasanaethau.