Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffwn ddiolch i Gorff Adolygu Cyflogau’r GIG a’r Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion am eu hadroddiadau; rwy’n nodi eu hargymhellion a’u sylwadau.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gadw swyddi o fewn GIG Cymru er mwyn gallu darparu gofal o safon uchel i gleifion. Mae polisi cyflogau Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r nod hwn. Mae hefyd yn adlewyrchu’r nod o sicrhau bod gwasanaethau yn gynaliadwy ac yn addas i’r diben.
Roedd ein tystiolaeth i’r cyrff Adolygu Cyflogau yn nodi’n eglur fod graddau’r her ariannol, yn enwedig yng Nghymru, yn golygu na châi unrhyw ddyfarniad ei ariannu, ac y byddai’r gost yn rhoi pwysau ychwanegol ar GIG Cymru. Nid yw’r sefyllfa hon wedi newid ac mae’r pwysau ariannol yn dal yn ystyriaeth bwysig.
Mae’r Adran Iechyd wedi cyhoeddi ei bwriad i roi dyfarniadau ar wahân i aelodau staff dethol yn 2014-15 ac yn 2015-16. Mae eisoes wedi trafod telerau ac amodau diwygiedig yn Lloegr.
Gyda golwg ar argymhellion Corff Adolygu Cyflogau’r GIG, yng Nghymru bydd ein dyfarniad yn seiliedig ar yr un cwantwm â’r Adran Iechyd – cyfwerth â chost gweithredu cynigion yr Adran Iechyd yng Nghymru. Ond efallai y byddwn am ddosbarthu’r dyfarniad mewn ffordd wahanol.
Gofynnir i NHS Employers, yr undebau llafur a chymdeithasau’r staff gynnal trafodaethau brys a chyflwyno argymhellion ar gyfer dosbarthu’r swm hwn, er mwyn gwireddu ein hymrwymiadau gwreiddiol i gynnal safonau uchel o fewn GIG Cymru wrth ofalu am gleifion.
O ran argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion:
- Byddwn yn derbyn argymhellion y Corff hwn ar gyfer meddygon teulu Cymru ac yn cynnal cysondeb â meddygon teulu yn Lloegr;
- Byddwn yn cynyddu gwerth contractau deintyddol 1.47% ar gyfer deintyddion Cymru;
- Byddwn yn rhoi dyfarniad sy’n seiliedig ar yr un cwantwm â’r Adran Iechyd ar gyfer meddygon ar gyflog misol nad ydynt yn feddygon ymgynghorol – cyfwerth â chost gweithredu cynigion yr Adran Iechyd yng Nghymru. Ond efallai y byddwn am ddosbarthu’r dyfarniad mewn ffordd wahanol. Gofynnir i NHS Employers a Chymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) gynnal trafodaethau brys a chyflwyno argymhellion ar gyfer dosbarthu’r swm hwn, er mwyn er mwyn gwireddu ein hymrwymiadau gwreiddiol i gynnal safonau uchel o fewn GIG Cymru wrth ofalu am gleifion;
- Byddwn yn rhoi dyfarniad sy’n seiliedig ar yr un cwantwm â’r Adran Iechyd ar gyfer meddygon ymgynghorol - cyfwerth â chost gweithredu cynigion yr Adran Iechyd yng Nghymru. Bydd NHS Employers yn estyn gwahoddiad pellach i Gymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) ymuno ag ef i drafod y cynigion sy’n weddill ar y contract meddygon ymgynghorol a’r mater hwn yn ymwneud â chyflogau, mewn un drafodaeth.