Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddoe, cafodd adroddiad Ymchwiliad Francis i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford ei gyhoeddi. Er mai ymwneud â digwyddiadau yn Lloegr y mae'r adroddiad hwn, a hynny mewn system GIG wahanol, rwyf am sichrau ein bod ni yng Nghymru yn defnyddio’r adroddiad i barhau i wella'n dull o weithredu a’n bod yn dysgu oddi wrtho wrth ddarparu Gofal Diogel a Thosturiol. 


Mae angen i ni gymryd amser i bwyso a mesur yr adroddiad hwn yn fanwl. Rwy’n bwriadu cyflwyno sylwadau mwy cyflawn cyn toriad yr haf, ac arwain Dadl yn y Cynulliad ym mis Mawrth i helpu i lywio dull Cymru o weithredu. Mae'r materion difrifol yn adroddiad Francis yn drech na ffiniau gwleidyddol.


Fel Aelodau Cynulliad rydym oll yn gwybod o'r llythyrau a gawn fod pethau'n mynd o chwith o dro i dro yn anffodus. Nid oes sicrwydd llwyr mewn system sy'n cael ei rhedeg gan bobl. Mae'r mwyafrif helaeth o'n staff yn gwneud gwaith ardderchog dan bwysau mawr, weithiau mewn sefyllfaoedd heriol. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud yw diogelu rhag y perygl y gallai system fethu ar raddfa eang. Mae pawb - y cyhoedd, y cleifion a gweithwyr y GIG - yn rhoi lle canolog i Ofal Diogel a Thosturiol yn niwylliant y GIG yng Nghymru. Golyga hyn ddiwylliant sy'n agored, sy’n dryloyw ac sy'n dysgu o'i gamgymeriadau. Rwy'n sylweddoli y gall ein hymddygiad ni fel gwleidyddion helpu i ddylanwadu ar y ffordd y mae’r cyhoedd a staff y GIG yn meddwl, a’r hyn maen nhw’n ei gredu.


Nid oes modd gwneud gofal a thosturi yn destun mandad; yn wir pa weithiwr na ddywedai mai dyna'r hyn a wna bob dydd? Mae yma her i arweinwyr Byrddau ac Ymddiriedolaethau'r GIG a'r holl sefydliadau sy'n darparu gofal yng Nghymru. Rwyf am i GIG Cymru ddangos sut y gall y cyhoedd fod yn hyderus ein bod yn gwrando'n astud, yn chwilio am bob cyfle i ddysgu ac yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau'n frwd ac yn fuan, nawr ac yn y dyfodol.


Mae gennym ddeunydd adeiladu sylweddol eisoes a fframwaith llywodraethu clir, sy’n pennu rolau, cyfrifoldebau a disgwyliadau er mwyn sicrhau gofal o’r radd flaenaf yn y GIG yng Nghymru. Nid dyma'r adeg i gyflwyno llu o fentrau newydd ac rwy'n amau gryf y gallai hynny gael ei weld fel adwaith tymor byr. Ym mhob sefydliad, rhaid adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio, gan gyflymu lle bo angen a chwalu unrhyw rwystrau. Cyn bo hir, byddaf yn cyhoeddi fy ymateb i'r ymgynghoriad yr ydym newydd ei orffen ynghylch grymuso'r Cynghorau Iechyd Cymuned i helpu i roi mwy o lais i gleifion yng Nghymru. Rydym eisoes yn mesur profiadau cleifion, er y gallem, yn fy marn i, wneud mwy. Pan aiff pethau o chwith, mae gennym ein rheoliadau Gweithio i Wella. Bellach, rhaid i bob Bwrdd ac Ymddiriedolaeth Iechyd baratoi Datganiad Ansawdd blynyddol ar gyfer y cyhoedd. Mae gan ein Harolygiaethau yng Nghymru rôl allweddol i ddarparu sicrwydd proffesiynol annibynnol. Rydym yn treialu "Archwiliadau gan Gymheiriaid" fel y gall Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd ddysgu oddi wrth ei gilydd. Caiff hyn oll ei oruchwylio gan Fforwm Ansawdd a Diogelwch Cenedlaethol GIG Cymru. 


Mi wn fod y mwyafrif helaeth o staff y GIG, boed feddygon, nyrsys, rheolwyr neu lanhawyr, yn dangos gofal a thosturi i bobl pan fyddant ar eu mwyaf bregus.  Dyna'u prif werthoedd. Serch hynny, rhaid wrth lywodraethu da ac atebolrwydd clir i sicrhau ein bod yn gweithredu ar ein bwriadau, a rhaid i ni gynnwys cleifion a staff wrth wneud penderfyniadau.


Heddiw, bûm yn ymweld ag Ysbyty Treforys i weld y gwaith rhagorol yr ydym ni wedi'i wneud i leihau’r achosion o friwiau a achosir drwy fod yn orweddog, dan arweiniad ein gwaith gwella ansawdd 1000 o Fywydau a Mwy. Rydyn ni’n gwybod sut i wneud a sut i arwain, a gallwn ymfalchïo yn hynny. Yr hyn rwyf am i'r ddadl ganolbwyntio arno yw sut allwn ni ddysgu gan Ymchwiliad Francis, a hynny er mwyn gwneud Gofal Diogel a Thosturiol yn rhan annatod o'n gwaith. Ni allwn orffwys ar ein rhwyfau; rhaid i ni gamu ymlaen yn hyderus gan wybod fod heriau y gallwn eu trechu, a rhaid i ni barhau i wneud ein gorau i wasanaethu pobl Cymru hyd eithaf ein gallu.


Rwy'n gwybod y bydd Aelodau'r Cynulliad am ystyried gyda mi raddfa wirioneddol ddychrynllyd yr hyn a ddigwyddodd yng Nghanol Swydd Stafford, a'r gwersi a allai fod yn gymwys i Gymru. Mae’n rhaid i ni hoelio sylw'r ddadl ar anghenion y cyhoedd ac anghenion y rhai sydd angen y Gofal Diogel a Thosturiol a roddir gan y GIG.